1 of 27

2 of 27

​

Adolygu Rhyddiaith yr Oesoedd Canol

Cymraeg Safon Uwch

3 of 27

Adran A: Rhyddiaith yr Oesoedd Canol – Branwen Ferch Llŷr

​

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr astudio’r testun sydd yng nghyfrol Gwerthfawrogi’r Chwedlau Rhiannon Ifans a bydd disgwyl iddynt hefyd fod yn gyfarwydd â diweddariad o’r chwedl gyfan a geir yn naill ai Y Mabinogion gan Dafydd a Rhiannon Ifans neu Y Mabinogi gan Gwyn Thomas.

​

Yn yr arholiad disgwylir i ymgeiswyr ateb cwestiwn wedi ei rannu fel a ganlyn:

​

(i) esbonio cynnwys y darn a ddyfynnir ar y papur arholiad o Chwedl Branwen (Gwerthfawrogi’r Chwedlau) a nodi ei arwyddocâd yn nghyd-destun y chwedl;

​

(ii) dadansoddi cymeriadau neu themâu a welir yn y darn gan weld cysylltiadau â’r hyn a geir yn y chwedl gyfan.

​

​

​

​

4 of 27

Themâu’r Chwedl

• Cynnen

• Llid Efnysien

• Sarhad

• Talu iawn

• Dial

• Rhyfel / Anghydfod

• Heddwch

5 of 27

Themâu’r Chwedl

• Arwriaeth

• Llwfrdra

• Arweinyddiaeth

• Perthynas

• Hen hudoliaeth

• Y ferch ddioddefus / y diniwed yn dioddef

6 of 27

Perthynas Briodasol

  • Perthynas rhwng gŵr a gwraig – brenin a brenhines. Dyma fan cychwyn y chwedl – awydd Matholwch i glymu dwy wlad ynghyd.

• Matholwch yn sarhau Branwen – ei chosb yn erchyll i rywun o’i statws hi.

• Priodas wleidyddol, boliticaidd – arf ydyw yn nwylo’r dynion. Mae’n gymeriad goddefol. Ei sefyllfa a’i statws yn ddibynnol ar ei gŵr a’i brawd – yn cael ei thynnu rhwng y ddwy wlad – nid yw’n perthyn yn llwyr i’r naill na’r llall.

• Pwyslais ar rinweddau Branwen fel gwraig a brenhines dda – ei gwyryfdod, ei haelioni a’i charedigrwydd, esgor ar fab…

• Ni welir unrhyw gyfathrebu uniongyrchol rhwng y ddau yn y chwedl.

• Er hyn, gwelir dyfeisgarwch Branwen yn meithrin y ddrudwy er mwyn dianc o’i chaethiwed yn Iwerddon.

7 of 27

Perthynas Deuluol

  • Cyflwyniad manwl i deulu Bendigeidfran ar ddechrau’r chwedl. Pwyslais ar natur gyferbyniol Efnysiein a Nisien.

• Cenfigen a siom o fewn y teulu’n achosi gwrthdaro. Efnysien yn teimlo’i fod wedi’i sarhau gan Bendigeidfran.

• Enghreifftiau pellach o’r modd mae Efnysien yn teimlo’i fod yn ynysig ac ar gyrion y teulu hwn, e.e. pan nad yw Gwern yn mynd ato yn y wledd yn Iwerddon i gael ei longyfarch…

• Efnysien yn amlwg yn meddwl yn uchel o’i chwaer Branwen.

• Safle a sefyllfa Branwen yn dibynnu’n gyfan gwbl ar ei pherthynas â’i brawd a’i gŵr. Yn cael ei thynnu rhwng y ddau.

• Y cwlwm teuluol yn achosi problemau i rai o’r cymeriadau, e.e. Bendigeidfran yn teimlo na all gosbi Efnysien oherwydd y berthynas waed sydd rhyngddynt.

• Matholwch yn defnyddio’r cwlwm teuluol rhyngddo ef a Bendigeidfran er mwyn achub ei groen, e.e. atgoffa Bendigeidfran mai ei nai ef yw Gwern, a’i fod yntau Matholwch yn briod â Branwen ei chwaer.

• Brad a thwyll o fewn teulu yn amlygu’i hun pan ddychwela’r saith milwr i Ynys y Cedyrn – cefnder Bendigeidfran wedi lladd y saith marchog a adawyd i warchod Ynys y Kedyrn – ond methodd â lladd Caradog fab Bendigeidfran oherwydd y cwlwm teuluol.

8 of 27

Brenin a’i Bobl

• Darlun o berthynas y ddau frenin â’i gilydd ac o’u perthynas gyda’u pobl.

• 2 arweinydd cyferbyniol.

• Bendigeidfran – gwelwn ei awydd i gymodi a chadw heddwch.

• Mae’n deg – dilyn gofynion cyfreithiau’r cyfnod – rhaid talu iawn am sarhad yn ôl statws y person.

• Efallai mai gweithred fyrbwyll oedd rhoi’r Pair Dadeni – dangos ychydig o wendid? Gorawydd i gymodi.

• Doethineb Bendigeidfran fel arweinydd i’w weld mewn sawl man arall yn y chwedl, e.e. diogelu Ynys y Kedyrn yn ei absenoldeb; trefnu diogelwch Ynys y Kedyrn yn dilyn ei farwolaeth; sut roedd e wedi trin y ddau gawr o Iwerddon…

• Matholwch – ei anallu i dderbyn bod y tâl yn ddigonol am y sarhad a ddioddefodd.

• Ei wendid fel arweinydd – ei anallu i reoli ei bobl ei hun – yn plygu i’w gorchmynion nhw.

• Gwelwn hyn hefyd yn ei anallu i reoli’r cewri yn Iwerddon.

• Yn orddibynnol ar gyngor eraill ac yn methu gwneud penderfyniadau doeth – gwelir hyn hefyd yn ei ymateb i’r meirch yn cael eu difetha.

• Hefyd yn cael ei ddylanwadu i gosbi Branwen i ddial am y sarhad a ddioddefodd.

9 of 27

Dial

  • Efnysien yn dial ar feirch Matholwch – gweithred erchyll, afresymol a sadistaidd.

• Matholwch yn dial ar Branwen am y sarhad a ddioddefodd er mwyn tawelu’i gynghorwyr. Gorfodir Branwen i adael ystafell ei gŵr a symud i weithio yn y gegin – mae hynny ynddo’i hun yn sen ar ei safle o fewn y llys. Y pen cogydd yn taro bonclust ar ei hwyneb, unwaith y dydd, a hynny ar ôl iddo fod yn torri cig

• Sylwer mai’r diniwed sy’n dioddef – Branwen – yr un na leisiodd farn y naill ffordd neu’r llall yn y stori drist hon o gamymddwyn rhwng pobloedd a’i gilydd.

• Bendigeidfran yn dial am sarhad Branwen drwy gyhoeddi rhyfel ar Iwerddon ac er bod Matholwch yn cynnig cymodi, nid dyma ddiwedd ar y tywallt gwaed.

• Efnysien yn dial am dwyll y Gwyddelod drwy ladd y milwyr yn y sachau blawd.

• Dial di-ben-draw yn hynod ddinistriol. Rhaid talu am sarhad, ond talu unwaith ac am byth. Efnysien yw catalydd yr holl ddinistr, ond nid yw’r Gwyddelod damaid yn well yn eu hymddygiad yn ddiweddarach – hynny yw, mae drygioni yn esgor ar ddrygioni.

10 of 27

Talu Iawn

  • Y cam cyntaf – talu iawn i Matholwch yn sgil gweithred Efnysien. Telir gwerth y meirch, pris y farchnad, drwy roi meirch o Gymru yn anrheg i Matholwch.

• Ond rhaid talu’n ychwanegol am bris ei anrhydedd, sef y cywilydd a achoswyd i Matholwch oherwydd yr ymdeimlad o warth. Hyn yn bwysig yng Nghyfreithiau’r cyfnod. Rhoddir gwialen arian a phlât aur iddo hefyd.

• Bendigeidfran yn synhwyro nad yw Matholwch yn hapus gyda’r tâl a roddwyd – cynnig y Pair iddo fel tâl ychwanegol.

• Er mwyn gwneud iawn am y sarhad ar Branwen, mae Matholwch yn rhoi brenhiniaeth Iwerddon i Gwern ac yn adeiladu tŷ anferth i anrhydeddu Bendigeidfran. Apelia at eu clymau teuluol er mwyn creu heddwch rhyngddynt.

• Y mae rhodd Bendigeidfran i Matholwch yn troi’n anfantais fawr i’r Cymry yn eu brwydr, ond y mae’n fodd i Efnysien wneud rhyw fath o iawn am ei ddrygioni. Ar ddiwedd y chwedl mae’n gwneud iawn mewn ffordd am ei holl weithredoedd erchyll drwy ddinistrio’r Pair ac ennill y frwydr.

11 of 27

Llid Efnysien

  • Efnysien yn dial ar feirch Matholwch – gweithred erchyll, afresymol a sadistaidd.

• Ei lid yn deillio o’r ffaith iddo deimlo’i fod wedi’i sarhau gan ei deulu am nad oeddent wedi ymgynghori ag ef ynghylch priodas Matholwch a Branwen.

• Y weithred hon yn sarhad eithafol ar Matholwch – arwyddocâd meirch yn yr Oesoedd Canol. Sarhad hefyd ar Bendigeidfran am nad oedd yn ymddangos yn ddigon cryf i ddiogelu Matholwch tra oedd yn westai yn Ynys Y Kedyrn.

• Y weithred hon yw’r catalydd ar gyfer yr holl ddinistr sydd i ddilyn – effeithiau pellgyrhaeddol.

• Llid Efnysiein yn amlygu’i hun eto wrth iddo ddial am dwyll y Gwyddelod drwy ladd y milwyr yn y sachau blawd.

• Yn ogystal – ei lid yn ymddangos eto wrth iddo daflu Gwern i’r tân. Teimla unwaith eto fan hyn ei fod ar y cyrion, hyd yn oed gyda’i deulu ei hun.

• Yn annisgwyl efallai – ymddengys ei fod yn edifarhau am ei weithredoedd ar ddiwedd y chwedl – awydd i wneud iawn drwy ddinistrio’r pair – ac yn colli’i fywyd ei hun yn y broses.

• Dial di-ben-draw yn hynod ddinistriol. Efnysien yw catalydd yr holl ddinistr, ond nid yw’r Gwyddelod damaid yn well yn eu hymddygiad yn ddiweddarach – hynny yw, mae drygioni yn esgor ar ddrygioni.

12 of 27

BENDIGEIDFRAN A’R PEN HUDOL

  • Pwerau hudol amlwg ganddo.
  • Ei enw – Bendigaid Frân – yn cysylltu gyda duwiau Celtaidd.

• Ei faint – mae’n gawr. Ni chynhwyswyd ef erioed mewn tŷ. Cerdda drwy’r môr tuag at Iwerddon; gwna bont o’i gorff er mwyn i’w filwyr groesi afon Llinon

• Defnyddio’i faint a’i bwerau hudol er lles eraill a wna Bendigeidfran, e.e. creu pont; amddiffyn Branwen rhag yr ymladd.

• Mae’n ymateb yn bositif hefyd i gymeriadau hudol eraill, e.e. Llasar a’i wraig (y cewri o Iwerddon!).

• Cyfeiriad at gladdu pen Bendigeidfran yn y Triawdau – cuddio amddiffynnol – diogelu Prydain.

• Roedd y pen yn sanctaidd i’r Celtiaid. Credent mai yn y pen roedd yr enaid yn byw. Roedd yn gysegredig felly ac yn berchen ar alluoedd rhyfeddol.

13 of 27

Y PAIR HUDOL

• Pair rhyfeddol sy’n adfywio’r marw – pair a roddir i Matholwch i dalu iawn am sarhad Efnysien – “ac erbyn auory y uot yn gystal ag y bu oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw”.

• Hanes diddorol ynghylch sut y cafodd Bendigeidfran y pair – yn berchen i ddau gawr o Iwerddon a oedd yn byw yn Llyn y Pair. Cysylltu â’r syniad o’r byd arall – Annwfn – byd o lawnder diddiwedd.

• Eironi – y pair yn cael ei ddefnyddio yn erbyn Bendigeidfran yn y frwydr fawr yn Iwerddon.

• Nifer o gyfeiriadau mewn chwedlau Celtaidd eraill at beiriau rhyfeddol. Yr enwocaf – Pair Gundestrup a ddarganfuwyd yn Jutland – panel arno a llun o ffigwr fel duw yn rhoi milwyr i mewn i bair ac yn eu hadfywio.

• Y pair yn cynnig cyfle i Efnysien i wneud iawn am ei ddrygioni.

14 of 27

GWLEDDA DIDDIWEDD

• Bendigeidfran yn darparu dwy wledd arallfydol ar gyfer y saith gŵr a ddaeth o Iwerddon – Harlech a Gwales.

• Y gwledda yn gyfnod o lawenydd a thawelwch ar ôl digwyddiadau trasig gweddill y chwedl.

• Mae amser fel petai’n aros yn llonydd yn ystod y cyfnod hwn a phob tristwch wedi’i anghofio dros dro.

• Mae amod ynghlwm ag aros yn y baradwys hon – rhaid peidio ag agor y drws.

• Yn Harlech – Adar Rhiannon yn canu iddynt. Syniad a welir mewn chwedloniaeth Geltaidd yn gyffredinol – rhyw swyn yn perthyn i adar. Dwy wedd i’r adar hyn – hudolus a lleddfu poen (fel i’r seithwyr yn Harlech) ond hefyd roedd y gallu ganddynt i beri marwolaeth.

• Harlech a Gwales yn diroedd trothwyol – rhyw dir neb.

• Ond mae’r cyfnod yn dod i ben. (Roedd Bendigeidfran wedi rhagweld hyn wrth gwrs.) Mae chwilfrydedd Heilyn yn drech nag ef ac mae’n agor y drws, edrych tuag at Aber Henfelen a Chernyw a rhaid symud ymlaen.

15 of 27

Rhyfel/Anghydfod

  • 1. Efnysien yn ymsod ar feirch Matholwch gan ei sarhau ac achosi anghydfod rhwng y Gwyddelod a gwŷr Ynys y Kedyrn.
  • 2. Anghydfod yn ailddechrau yn Iwerddon. Matholwch yn dial ar Branwen drwy ei halltudio i’r gegin a gorfodi iddi gael ei churo. Gwna hyn yn dilyn pwysau o gyfeiriad ei gynghorwyr sy’n awgrymu nad yw wedi derbyn digon o iawn am y sarhad a gafodd.
  • 3. Yr anghydfod yn dwysáu wrth i Bendigeidfran ddod draw i Iwerddon gyda holl rym byddin Ynys y Kedyrn i ddial ar y sarhad ar Branwen.
  • 4. Ar ôl cytuno ar delerau heddwch – y Gwyddelod yn twyllo Bendigeidfran drwy guddio milwyr yn y sachau blawd yn y neuadd a godwyd i anrhydeddu Bendigeidfran.
  • 5. Efnysien yn lladd y milwyr yn y sachau blawd.
  • 6. Efnysien yn taflu Gwern i’r tân yn ystod y wledd. Gweithred hollol wallgof ac annisgwyl. Teimla ei fod yn cael ei ddiystyru eto – fel ar ddechrau’r chwedl.
  • 7. Pan ddaw’r saith milwr yn ôl i Ynys y Kedyrn gyda phen Bendigeidfran – twyll

16 of 27

Heddwch

  1. Matholwch a’i filwyr yn cyrraedd Ynys y Kedyrn i ofyn am Branwen yn wraig. Gweithred i greu heddwch – cryfhau ac uno’r ddwy wlad.
  2. Bendigeidfran yn cymodi â Matholwch drwy gynnig rhoddion iddo i dalu iawn – meirch iach, plât aur a gwialen arian. Yna’n cynnig y Pair Hud. Cynnig mwy nag oedd yn ddisgwyliedig yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda. Daw’r gynnen i ben am y tro.
  3. Wedi i Bendigeidfran ddod draw i Iwerddon i ddial, mae Branwen yn trefnu cymod rhwng ei brawd a Matholwch, ac fe gytunir ar delerau heddwch rhwng y ddwy wlad. Tro Matholwch yw hi’n awr i gynnig rhoddion i dalu iawn. Trosglwyddir y frenhiniaeth i Bendigeidfran ac adeiledir neuadd fawr i’w anrhydeddu.
  4. Efnysien yn dod â’r rhyfela i ben drwy ddinistrio’r Pair Dadeni. Buddugoliaeth i wŷr Ynys y Kedyrn – ond buddugoliaeth wag ydyw. Dim ond 7 a ddaw yn ôl yn fyw.
  5. Cyfnod o heddwch a llonyddwch yn Harlech a Gwales. Ond heddwch dros dro ydyw. Rhaid yw mynd â’r pen a’i gladdu yn y Gwynfryn.
  6. Ymgais Bendigeidfran i gadw’r heddwch ar ôl ei farwolaeth – diogelwch pan fydd ei ben wedi’i gladdu ac yn wynebu tua Ffrainc

17 of 27

ARWRIAETH

  1. Branwen yn dioddef ei sarhad yn dawel a dewr. Er, dengys tipyn o ddyfeisgarwch yn y modd y mae’n meithrin y ddrudwy a’i danfon at Bendigeidfran.
  2. Dengys Bendigeidfran ddewrder yn y modd y mae’n casglu’i holl fyddin ynghyd er mwyn teithio i Iwerddon i ddial am sarhad ei chwaer.
  3. Bendigeidfran yn ddewr yn y modd y mae’n creu pont o’i gorff ei hun er mwyn cynorthwyo’i filwyr.
  4. Efnysien yn dangos dewrder yn y modd y mae’n aberthu’i hun er mwyn dinistrio’r pair. Teimlo cywilydd o’r diwedd am ei weithredoedd ac am wneud iawn am hyn.
  5. Bendigeidfran yn dangos dewrder eto ar ddiwedd y chwedl. Er ei fod yn wynebu angau – yr hyn sydd flaenaf yn ei feddwl yw trefnu a diogelu Ynys y Kedyrn. Mae’n rhoi cyfarwyddiadau manwl a chlir i’r seithwyr sy’n teithio nôl i Gymru ynghylch yr hyn sydd yn rhaid ei wneud.

18 of 27

LLWFRDRA

  1. Efnysien yn ymosod ar geffylau Matholwch. Llwfr yn y ffaith nad oedd wedi wynebu Bendigeidfran na Matholwch gyda’i gŵyn.
  2. Gellid dadlau bod Bendigeidfran wedi ymateb yn llwfr yn y ffaith nad oedd wedi cosbi Efnysien oherwydd y cwlwm teuluol rhyngddynt. Petai Efnysien wedi derbyn cosb efallai na fyddai’r ddwy wlad wedi’u dinistrio oherwydd rhyfel.
  3. Matholwch – yn llwfr yn y ffaith ei fod yn dibynnu’n ormodol ar gyngor ei wŷr. Digwydd hyn nifer o weithiau yn y chwedl: a. gwrando ar farn ei gynghorwyr wedi iddo glywed am anffurfio’r meirch ac yn penderfynu gadael ar unwaith b. plygu o dan y pwysau a roddir arno gan ei gynghorwyr wedi dychwelyd i Iwerddon; dial ar Branwen sy’n hollol ddiniwed ac yn ei sarhau c. modd mae Matholwch a’i gynghorwyr yn cuddio’r hyn sy’n digwydd i Branwen yn llwfr – maent yn gwahardd unrhyw deithio rhwng Iwerddon a Chymru.
  4. Mae Matholwch yn llwfr eto yn y ffaith nad yw’n wynebu Branwen i ofyn ei chyngor am yr olygfa ryfedd sy’n dod dros y môr tuag at Iwerddon – danfona ei gynghorwyr i ofyn iddi.
  5. Mae ymateb Matholwch a’i filwyr i dorri’r bont dros Llinon a dianc yn llwfr ac yn dangos diffyg anrhydedd.
  6. Gwelir llwfrdra hefyd yn y modd mae Math yn ymgreinio ac yn apelio at glymau teuluol er mwyn cymodi â Bendigeidfran yn Iwerddon.
  7. Y Gwyddelod yn llwfr ac yn ystrywgar yn y ffordd maent yn cuddio’r milwyr yn y sachau blawd.
  8. Llwfrdra hefyd yn y modd y gwnaeth Matholwch drin y 2 gawr yn Iwerddon – eu caethiwo mewn tŷ o haearn a cheisio’u lladd.

19 of 27

Y Diniwed yn Dioddef

• Branwen wedi gwneud dim i haeddu’r hyn sy’n digwydd iddi. Er ei bod yn hollol ddiniwed – hi sy’n dioddef fwyaf efallai.

• Mae’n gymeriad goddefol – cael ei rhoi yn wraig i Matholwch. Priodas wleidyddol. Gwrthrych mewn gêm boliticaidd. Derbynia’r penderfyniad yn ddigwestiwn. Disgwyl iddi feichiogi a chynhyrchu etifedd.

• Caiff ei sarhau a’i chamdrin. Mae’n colli ei statws brenhinol – caiff ei chosbi am weithredoedd Efnysien.

• Yn cymryd y bai ar ddiwedd y chwedl – cario baich euogrwydd. Mae’n torri ei chalon ac mae hi’n marw. Dyma’r ail waith yn unig iddi siarad yn y chwedl.

20 of 27

Y DINIWED YN DIODDEF – enghreifftiau eraill?

• Matholwch yn dioddef drwy weithred Efnysien – er wrth i’r chwedl ddatblygu nid yw Matholwch yn ddiniwed wrth gwrs!

• Bendigeidfran yn dioddef gan na allodd amddiffyn Matholwch – ei statws yn cael ei wanhau. Yn y diwedd mae’n dioddef i’r eithaf drwy gael ei daro â gwaywffon wenwynig.

• Gwern yn cael ei daflu i’r tân.

• Efnysien? Gwelwn ei ddioddefaint ef ar ddiwedd y chwedl – ceisia wneud iawn am ei gamweddau. Er hyn, gellir dadlau mai ef yw’r dihiryn pennaf yn y chwedl hon.

21 of 27

22 of 27

23 of 27

24 of 27

25 of 27

26 of 27

27 of 27