TGAU Cymraeg Iaith
Trafodaeth mewn Grŵp
Ymateb a Rhyngweithio
15% o’r radd TGAU Iaith
Meleri Light
Beth yw’r dasg?
Dyma dasg y byddi di’n ei chwblhau fel rhan o grŵp a bydd disgwyl i chi gynnal trafodaeth o tua deg munud.
Byddwch yn derbyn sbardun trafod gan eich athro neu athrawes cyn yr arholiad.
Ar y sbardun bydd ffeithiau ac ychydig o wybodaeth ond bydd rhaid i chi fel grŵp i ymchwilio ymhellach i’r pwnc.
Nid oes hawl gennych chi i sgriptio’r drafodaeth oherwydd bydd angen trafodaeth naturiol.
Ble mae dechrau?
Y nod wrth gwblhau’r dasg hon yw i fynegi barn ar y pwnc dan sylw. Defnyddiwch y ffeithiau/wybodaeth ar y sbardun er mwyn arwain eich gwaith ymchwil. Mae croeso i chi sôn am eich profiadau personol wrth drafod.
Pa ffynonellau eraill y gallwch chi eu defnyddio?
Y drafodaeth
Fel grŵp, cewch gyfle i baratoi cyn sefyll yr arholiad ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio ar y cyfle i fynegi eich barn ac i drafod eich gwaith ymchwil.
Rhaid i ti gymryd sylw o sylwadau aelodau’r grŵp. Cymera nodiadau byrion wrth wrando er mwyn ysgogi dy gof pan mai dy dro di fydd hi i gyfrannu.
Dyma rai brawddegau i dy helpu:
Cofia, nid oes angen i chi gytuno gyda’ch gilydd. Pwrpas y dasg yw i ddechrau trafodaeth am bwnc arbennig ac i glywed barn amrywiol. Yn yr achos hwn galli di ddefnyddio’r brawddegau isod:
Mae gwrando yr un mor bwysig â siarad. Mae’n bwysig dy fod yn annog ac yn rhoi’r cyfle i eraill rannu eu syniadau.
Sgiliau trafod
Yn nhrafodaeth y grŵp, bydd angen i ti ddangos dy fod yn medru rhyngweithio ac ymateb i syniadau aelodau dy grŵp. Bydd angen i ti fod yn hyderus gan adael i eraill drafod a mynegi eu barn nhw hefyd. Cofia fod gwrando yr un mor bwysig â siarad.
Dangosa dy fod yn gwrando gan:
Bydd eich trafodaeth yn llwyddiannus os bydd yn llifo’n dda gydag aelodau’r grŵp yn cytuno ac yn anghytuno gan gynnig rhesymau dros eu barn a’u safbwyntiau. Rhaid i bawb gael cyfle i gyfrannu.
Rhaid i ti osgoi:
Er mwyn dechrau'r drafodaeth gofynna gwestiynau agored, sef cwestiynau nad ydyn nhw'n gallu cael eu hateb gan ddefnyddio ‘ie’ neu ‘na’. Gallant arwain at drafodaeth gyfeillgar a diddorol.
Cofia fod safon a chywirdeb dy iaith yn cael eu hasesu felly mae’n rhaid i ti ddefnyddio Cymraeg cywir. Wrth baratoi ar gyfer yr arholiad, cofnoda dermau, geirfa, brawddegau, rheolau gramadegol ar dy daflen baratoi.
Anela at fod yn:
Ymarfer
Fel grŵp, trafodwch un o’r pynciau isod:
Gofynnwch i bobl eraill wrando arnoch chi a mynegi eu barn yn onest. Hefyd, gallwch recordio eich hunain er mwyn gwrando arnoch chi eich hunain a gwerthuso eich trafodaeth. Medrwch ystyried y meini prawf/cynllun marcio'r dasg. Byddwch yn dysgu oddi wrth eich camgymeriadau a defnyddio’r pethau llwyddiannus wnaethoch chi eto.
Sut mae llwyddo?
Defnyddiwch y rhestr wirio i’ch helpu.