1 of 42

2 of 42

��Adolygu: Cymraeg Safon Uwch

​

Adolygu’r Hengerdd

3 of 42

Beth yw’r Gododdin?

  • Cyfres o gerddi am filwyr.
  • Dim stori y Gododdin, ddim yn adrodd naratif na stori fer.
  • Cerdd sy’n coffau.
  • Ifor Williams yn ail greu’r cefndir.
  • Llawer o broblemau am ddyddiad ac amser y gerdd.
  • Tarddu o’r 6ed Ganrif.
  • Cyfres o feirdd wedi creu rhyw gerdd am y Gododdin ond mae’n amlwg bod pobl yn ail wampio’r cerddi.
  • Perfformio’r gerdd ganrifoedd wedyn mewn llysoedd. Ffrwyth yr ail greu dros wahanol ganrifoedd.

​

​

4 of 42

Gododdin

​

  • Llawysgrif o gwmpas 1270 – gwerthfawr.
  • Ysgrifennu ar groen anifail -memrwn.
  • Ysgrifennu yn rhywbeth prin, llawer yn anllythrennog.
  • Llawysgrifen fechan, gain.
  • Disgrifio barddoniaeth fel ‘canu’.
  • 7 ganrif o drosglwyddo cof a cherddi Gododdin o 6ed ganrif i Lyfr Aneirin.
  • Y cof amdanyn nhw yw’r Gododdin.

​

​

​

5 of 42

Gododdin

  • Beirdd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
  • Adrodd gwahanol rannau o’r Gododdin – ail gyfansoddi.
  • Seiliau hanesyddol yw’r Gododdin.
  • Caeredin heddiw yn fan eitha pwysig.
  • Diben barddoniaeth yn y cyfnod – Canu Mawl.
  • Canu Mawl – canmoliaeth eithafol sef darlun eithafol.
  • Dychan – beirniadu drwy gyfrwng barddoniaeth a grym I hynny, chwalu hunan barch pobl.

​

6 of 42

Pwy oedd Aneirin?

  • 6ed ganrif – syniad o Gymru ddim yn bodoli.
  • 9fed Ganrif Aneirin a Taliesin yn cael eu henwi.
  • Awdur yn cyfeirio at ail hanner 6ed ganrif.
  • Natur y farddoniaeth – Arwrol.
  • Barddoniaeth sy’n disgrifio arwyr, milwyr.
  • Enw’r arwr yn byw am byth drwy gyfrwng y clod a’r mawl.
  • Arwr ifanc, gorfod marw’n ddewr er mwyn i’r enw fyw am byth.

7 of 42

Cefndir Taliesin

  • Bardd yn canu yn yr Hen Ogledd ar ddiwedd y 6G yw Taliesin.
  • Mae ei farddoniaeth ar glawr mewn llyfr canoloesol a elwir yn ‘Llyfr Taliesin’. Dyma un o drysorau casgliad Peniarth a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r llyfr yn cynnwys deuddeg cerdd o eiddo Taliesin, ynghyd â cherddi diweddarach a dadogwyd arno ar gam.
  • O blith y deuddeg cerdd, mae chwech ohonynt yn clodfori Urien Rheged, a’i fab, Owain. Llyfr sy’n dyddio’n ôl i’r 14G yw’r gyfrol hon. Yn ogystal â hyn, ceir cyfeiriad at Daliesin yn llyfr hynaf yr iaith Gymraeg, sef Llyfr Du Caerfyrddin, lle cawn hanes amdano’n ymddiddan â Myrddin.

​

8 of 42

  • Barn Syr Ifor Williams yw bod Taliesin y bardd yn frodor o Bowys, gan fod un o’r cerddi cynharaf o’i eiddo yn gerdd i Gynan Garwyn, sef brenin o Bowys.

​

  • Mae hyn yn gyson â lleoli chwedl Taliesin ym Mhowys. Stori werin yw’r chwedl hon lle mae Taliesin yn fab i’r dduwies Ceridwen.

​

  • Mae enw’r bardd yn ymddangos mewn chwedlau eraill hefyd. Yn chwedl Branwen, fe’i henwir yn un o’r saith gŵr a ffodd o Iwerddon wedi marwolaeth Bendigeidfran.

9 of 42

Clywodd Taliesin am fri Urien yn yr Hen Ogledd, ac aeth ato i fod yn fardd y teulu a’r llys. Gelyn y Cymry yn yr Hen Ogledd oedd ‘lluoedd Lloegr’, sef yr Angliaid neu’r Eingl a oedd wedi sefydlu mewn dwy deyrnas, Deifr a Brynaich, ar arfordir gogledd-ddwyrain Lloegr.

​

Ymddengys fod Taliesin wedi pechu Urien trwy ganu i arglwyddi eraill. Mae’n debyg mai enghraifft o hyn yw ei gerdd i Wallog. Bu’n rhaid i Taliesin ganu cerdd o dadolwch i Urien oherwydd hyn

10 of 42

  • Fodd bynnag, dadleua ambell arbenigwr ar hanes y cyfnod, mai symud i lawr o’r Hen Ogledd i Gymru, ac nid fel arall, a wnaeth Taliesin.

​

  • Tybir ei fod yn canu o amgylch y flwyddyn 580 gan fod yna gyfeiriad at frwydr o’r flwyddyn hon yn ei ganu.

​

11 of 42

Cefndir Brwydr Argoed Llwyfain

  • Cefndir y gerdd
  • Mae’r gerdd hon yn rhoi darlun i ni o’r paratoadau a fu ar gyfer Brwydr Argoed Llwyfain. Ni wyddwn union leoliad Argoed Llwyfain, ond mae’n sicr mai lleoliad ydyw yn yr Hen Ogledd, ac mae’r gerdd wedi’i lleoli’n amseryddol tua diwedd y 6G. Cerdd ydyw yn darlunio cyfnod un o’r brwydrau rhwng y Brythoniaid, sef yr Hen Gymry, a’r Eingl Sacsoniaid. Roedd y Brythoniaid dan arweiniad Urien ac Owain ab Urien a’r Eingl Sacsoniaid dan arweiniad Fflamddwyn.

​

12 of 42

Arddull Argoed Llwyfain

  • Er mai cerdd ryfel yw’r gerdd hon gan Taliesin, nid yw’r gerdd yn cyfeirio at y frwydr o gwbl. Cawn ddarluniau byw o’r cyfnod yn arwain at y rhyfel, ynghyd â darlun brawychus o ganlyniad y rhyfel, ond mae’r bardd yn ymatal rhag disgrifio’r rhyfel ei hun, gan adael i ddychymyg y darllenydd wneud y gwaith.
  • Yn y llinell gyntaf, mae’n gosod y sefyllfa’n uniongyrchol, gan osod y rhyfel yn amseryddol: ‘Bore diw Sadwrn…’, a cheir defnydd trawiadol o’r ansoddair ‘fawr’ i ddisgrifio’r gad, gan ddefnyddio’r un math o ieithwedd ag y byddai newyddiadurwr heddiw. Down i wybod enw pennaeth y gelyn yn fuan iawn yn y gerdd, gan weld ei agwedd ymosodol o’r dechrau trwy ddefnydd o’r ferf gadarn ‘dygrysswys’:
  • ‘Dygryswys Fflamddwyn yn bedwar llu

​

13 of 42

  • Mae yma fanylder arbennig yng nghyd-destun tactegau milwrol y naill ochr a’r llall. Mae’r ffaith fod y bardd wedi rhestru’r ardaloedd yn gysylltiedig â’r rhyfel, er enghraifft, ‘Goddau a Rheged’, yn fodd i ni osod y digwyddiadau yn ddaearyddol.
  • Gallwn weld felly nad brwydr yn nychymyg y bardd mo’r frwydr hon, yn hytrach down i sylweddoli ei bod yn rhan o’n hanes cynnar ni fel cenedl. Nid oes yma lawer o ddisgrifio blodeuog, ond wrth ddisgrifio Fflamddwyn yn ‘fawr drybestawd’, fe atgyfnerthir y darlun blaenorol ohono yn ymosodwr creulon.
  • Ceir yma chwarae ar eiriau gyda’r gair ‘gwystlon’. Defnyddia Fflamddwyn y gair i herio’r Cymry, ac i awgrymu y dylent ildio. Mae’n arwyddocaol felly fod Owain ab Urien, mab i bennaeth y Cymry, yn defnyddio’r un gair i’w ateb yn ôl. Mae hyn yn awgrymu nad oedd ofn ar Owain o gwbl, a’i fod yn gwbl hyderus yng ngallu ei fyddin.

14 of 42

  • Mae’r gyfeiriadaeth hanesyddol a gawn wrth ddisgrifio Owain fel ‘cenau Coel’ yn dyfnhau’r parch sydd gennym ni tuag ato. Nid trwy weiddi a sgrechian ar Fflamddwyn y mae’r Cymry yn codi ofn arno, yn hytrach gwna Owain hynny trwy ei atgoffa’n garedig gyda phwy y mae’n ymladd!

15 of 42

  • Yma, cawn olwg ar Urien ei hun. Fe’i dyrchefir yn llygaid y darllenydd trwy’r disgrifiad ‘Udd Erechwydd.’ Os oedd Owain yn dawel a hyderus gyda Fflamddwyn, nid felly mo’i dad. Fe ddengys yntau'r un hyder, ond cawn olwg ar ei ffyrnigrwydd yn y rhestr o’r berfau person cyntaf lluosog yn arwain tuag at y frwydr.
  • Dechreuir gyda’r ferf ‘dyrchafwn,’ berf sy’n awgrymu goruchafiaeth ar y gelyn. Pwysleisio hyn a wna’r ferf ‘amborthwn.’ Wrth ailadrodd y ferf ‘dyrchafwn’, dyfnheir y dyhead o weld y Cymry’n fuddugoliaethus uwchlaw’r gelyn. Gyda’r ferf ‘cyrchwn’, cawn yr argraff gyntaf fod y siarad ar fin dod i ben, a bod y brwydro ar gychwyn.

16 of 42

  • Os mai sŵn a rhethreg a glywyd yn y gerdd hyd yma, tawelwch a glywir yn awr. Dyma un o’r cyferbyniadau mwyaf yn hanes ein llenyddiaeth ni. Mae ‘wedi elwch, tawelwch fu’ Aneirin yn cael ei ragflaenu yma’n amseryddol gan linell sydd yr un mor frawychus, yr un mor uniongyrchol a’r un mor ingol ei heffaith. Mae’n arwyddocaol mai mewn tawelwch y clywn ni’r sŵn mwyaf, ac mae hyn yn arbennig o wir yma;
  • ‘A rhag Argoed Llwyfain

bu llawer celain

​

17 of 42

  • Mae’n arwyddocaol, ynghanol yr holl alar a’r holl erchyllterau, mai bwriadu treulio ‘blwyddyn nad i’w cynnydd’ a wna’r bardd ar y diwedd. Bardd sy’n llawenhau mewn llwyddiannau yn hytrach na thristáu oherwydd colledion yw Taliesin

18 of 42

Geiriau allweddol

Diw Sadwrn = dydd Sadwrn. Mae ‘diw’ yn perthyn i’r Lladin dies.

Dwyre = cyfyd. Dyma sydd wedi rhoi’r ffurf ‘dwyrain’ i ni heddiw, sef lle mae’r haul yn codi.

Cynnu = machlud. Yn un bon sydd i’r gair disgyn.

Fflamddwyn = Dyma un o arweinwyr ‘lluoedd Lloegr’ sef y gelyn. Ystyr llythrennol yr enw yw ‘Un sy’n dwyn y fflam’. Gall y fflam fod yn drosiad am obaith a goleuni a chynhaliaeth i’r Cymry. Mae’n bosib mai llysenw ar y Brenin Deodric yw Fflamddwyn.

Goddau a Rheged = Enwau llefydd yw’r rhain yn yr ardal, ond hefyd yn enwau yn cael eu defnyddio am bobl e.e. Gwŷr Goddau a Rheged. Mae union leoliad Goddau yn ansicr heddiw, yn wahanol i leoliad Rheged.

Dyfwy =Mae John Morris Jones yn amau mai’r ferf ‘daeth’ sydd yma, ond ond barn Ifor Williams yw mai enw lle neu afon yw Dyfwy.

Eirios =Mae’n debyg mai ffurf ar y ferf ‘aros’ sydd yma, ond mae peth anghytundeb gan nad yw’n glir am ba ochr y mae’r llinell yn sôn, ai am y Cymry neu luoedd Lloegr.

Owain Owain ab Urien = Yn y gerdd hon, ymddengys mai Urien sy’n rheoli, a bod Owain yn ail iddo. Gwelwn y parch a oedd gan y bardd tuag ato ym marwnad Owain ab Urien.

​

19 of 42

  • Dwyrain Ffosawd Trallod y Dwyrain. Trosiad yw hwn am Owain, sef un a oedd yn dod â thristwch i’r dwyrain. Cyfeiriad yw’r dwyrain at y bobl a ymosodai o’r cyfeiriad hwnnw, sef yr Eingl Sacsoniaid.
  • Cenau Coel Mae’r ymadrodd hwn yn dangos pa mor bwysig oedd parhad y cenedlaethau yn y cyfnod hwn. Roedd Coel Hen yn ffigwr hanesyddol ar ddechrau’r 5ed ganrif, ac mae’n debog iddo fod yn llywodraethwr cadarn dros diroedd yn yr hen Ogledd. Testun balchder fyddai i Urien ac Owain gael eu cyfri yn ddisgynyddion iddo. Mae’n debyg mai’r un yw ‘Coel’ ac ‘Old King Cole’ yn y pennill Saesneg.
  • Erechwydd Yn wreiddiol, ‘yr echwyd’ a geir yma. Ystyr ‘echwydd’ yw rhaeadr neu ddŵr croyw, a chynnig Ifor Williams yw mai enw’r afon Swale yn swydd Efrog a geir yma.
  • Gwerin Yr ystyr yma yw ‘pobl’ neu ‘lu’, ac nid y gwrthwyneb i ‘bonheddig’

​

20 of 42

Marwnad Owain ab Urien

  • Rên = Arglwydd. Cyfeiriad at yr Arglwydd Dduw sydd yma, ac nid at unrhyw arglwydd bydol.
  • Tromlas ansoddair cyfansawdd sy’n cynnwys yr elfen trom = ‘trwm’, a ‘glas’. Cyfeirio mae at dywarchen o ddaear, sef y pridd ar fedd Owain.
  • I gywyddaid yn y gwreiddiol, ‘cywydeit’ a geir, a gall ‘cywyd’ olygu ‘cywydd’ = cerdd neu ‘cywyd’ = meddwl. Awgryma Ifor Williams mai’r ystyr yw nad oes unrhyw brinder o ddeunydd mawl yn Owain.
  • Isgell Awgrym John Morris Jones yw mai isgell = ‘cawl’ sydd yma, ond nid yw hyn yn rhoi’r ystyr addas. Cynnig Ifor Williams yw mai cell islaw’r ddaear, sef ‘bedd’ sydd yma.

​

21 of 42

Gawr = brwydr. Ond mae Ifor Williams yn awgrymu mai ‘gwawr’ sydd yma, gan roi’r ystyr bod y gwaywffyn yn debyg i belydrau’r wawr. Gall ‘gwawr’ hefyd olygu ‘disglair/llachar’.

​

Llwyfenydd llewenydd yw’r gair yn y gwreiddiol, ac ni fyddai ‘Arglwydd llawenydd’ yn ymadrodd anaddas amdano. Ond tebycach yw mai Llwyfenydd sydd yma, sef un o fröydd Owain.

​

Lleufer lleu + ber. Yr un ‘lleu’ sydd yn y gair goleuni. Gall y llinell yma olygu eu bod yn cysgu mor ysgafn nes bod goleuni yn eu llygaid, neu eu bod wedi marw â’u llygaid yn agored.

​

Haeach hen air yn golygu ‘fawr ddim’. Mae chwarae bwriadol ar eiriau yma, gyda’r gair ‘haeach’ yn y llinell nesaf yn agos iawn o ran sŵn, ond yn cyferbynnu’n llwyr o ran ystyr

22 of 42

23 of 42

24 of 42

25 of 42

26 of 42

27 of 42

28 of 42

29 of 42

30 of 42

31 of 42

32 of 42

33 of 42

34 of 42

35 of 42

36 of 42

37 of 42

38 of 42

39 of 42

40 of 42

41 of 42

42 of 42