Uned 6
Termau ar gyfer ysgrifennu anllenyddol
Adran A: Cyfarwyddiadau
Adran B: Ysgrifennu cyfarwyddiadol
Cyfarwyddiadau
Cyafrwyddiadau
Testunau posib
llyfr ffeithiol e.e. Ymarfer corff, celf, technoleg
patrwm gwnïo
rysait
arbrawf gwyddonol
cyfarwyddiadau ar becynnau
posteri/arwyddion rheolau
llawlyfr technolegol
e.e. ar gyfer car, cyfrifiadur
Llawlyfr DIY
Mae testun cyfarwyddiadol yn:
Dweud sut mae gwneud rhywbeth.
Yn nhrefn amser (yn gronolegol), neu mewn cyfres o gamau sy’n dilyn eu gilydd (mewn dilyniant).
Cynllunio Cyfarwyddiadau
Beth yw pwrpas cyfarwyddiadau?
Helpu rhywun i gyflawni’r hyn y mae am ei wneud.
Wrth gynllunio mae’n rhaid cael:
Nodweddion Ieithyddol
Mewn testun cyfarwyddiadol rydyn ni’n dweud wrth rywun sut i wneud rhywbeth penodol.
Rhaid cynllunio eich cyfarwyddiadau yn fanwl gan sicrhau bod y cyfarwyddiadau yn dilyn y drefn gywir. Gallwch wneud hyn wrth ddefnyddio’r diagram.
Wrth ysgrifennu testun cyfarwyddiadol rhaid:
Iaith syml ac eglur
Wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau dylech ddefnyddio iaith syml ac eglur. Does dim angen disgrifiadau manwl, blodeuog. Cofiwch taw pwrpas y testun yw dweud wrth rhywun sut i gwblhau yr hyn y mae am ei gyflawni.
E.e. Cymysgwch y siwgr a’r menyn hyd nes bod y gymysgedd o ansawdd hufennog.
NID: Cymysgwch y siwgr gwyn melys a’r menyn sgleiniog, blasus hyd nes bod y gymysgedd o ansawdd hufennog moethus.
Berfau Gorchmynnol
Wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau dylech ddefnyddio gorchmynnol yn yr ail berson.
____wch chi
____a di
E.e. Cymysgwch, rhowch, nodwch, eisteddwch, gallwch, symudwch
Nodwch eich atebion yn y blwch.
Symudwch eich cownter o gwmpas y bwrdd.
Defnyddio’r ail berson
Wrth ysgrifennu testun cyfarwyddiadol dylech ddefnyddio’r ail berson, fel y nodwyd yn y sleid flaenorol.
Yn ogystal â berfau gorchmynnol peidiwch ag anghofio eich a dy.
E.e. Cymysgwch eich cynhwysion mewn powlen.
Gwisga dy siwmper.
Defnyddio rhifau neu gysyllteiriau amser
Mae rhifau a chysyllteiriau amser yn angenrheidiol wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau er mwyn sicrhau bod y darllenydd yn medru cwblhau’r hyn y maent eisiau ei wneud yn gywir.
E.e. Mewn rysáit, yn aml iawn, mae’r camau wedi eu rhifo.
Geirfa neu gysyllteiriau amser:
Yn gyntaf, i ddechrau, , i gychwyn, ar ôl, wedyn, yna, pan fydd, wrth, i orffen...