1 of 12

Cymraeg ail iaith (UG)

Ionawr 2025�Sesiwn 2 – ’Lerpwl’�

2 of 12

Amcanion y sesiwn:

  • Adolygu patrymau pwysig i drafod technegau cerddi
  • Edrych ar gynnwys y gerdd ‘Lerpwl’
  • Defnyddio’r patrymau i greu brawddegau am y gerdd.

3 of 12

I ddechrau:

Faint o’r canlynol ydych chi’n gwybod?

Mae’r bardd yn defnyddio

​

Ar ddechrau’r gerdd, mae’r bardd yn defnyddio..

​

Rydyn ni’n gweld .. yn y gerdd

​

Mae __ yn y gerdd pan mae..

​

Ceir enghraifft o … yn y gerdd

​

4 of 12

I ddechrau:

Faint o’r canlynol ydych chi’n gwybod?

Mae’r bardd yn defnyddio

The poet uses

Ar ddechrau’r gerdd, mae’r bardd yn defnyddio..

At the start of the poem, the poet uses…

Rydyn ni’n gweld .. Yn y gerdd

We see .. In the poem

Mae __ yn y gerdd pan mae..

There is .. In the poem when ..

Ceir enghraifft o … yn y gerdd

There is an example of … in the poem

5 of 12

Lerpwl

  • Teitl y gerdd ydy ‘Lerpwl’
  • Ysgrifennwyd y gerdd gan Grahame Davies.
  • Mae’r gerdd yn trafod newidiadau yn ei feddyliau tuag at Lerpwl / efffaith pobl yn symud i Gymru ar yr iaith Gymraeg.
  • Mae 3 phennill yn y gerdd.

6 of 12

Lerpwl

Yn y pennill gyntaf…

Yn y pennill gyntaf mae’r bardd yn..

​

  • Cofio ei blentyndod
  • Cofio amser da pan oedd e’n mynd i Lerpwl.
  • Cofio mynd i’r ddinas mawr – cofio mynd rhywle arbennig / rhywle gwahanol i Sir Ddinbych.

Pan oeddwn i’n llanc yn Sir Ddinbych

dydd Sadwrn i’w gofio i mi

oedd mynd dros y ffin am y diwrnod

i’r ddinas yn ymyl y lli.

7 of 12

Lerpwl

Yn yr ail bennill mae’r bardd yn..

  • Sôn am hoffi Lerpwl pan oedd e’n ifanc
  • Cofio y tyrau uchel sy’n disgleirio
  • Roedd e’n hoffi clywed pobl yn sgyrsio ar y stryd – mae e’n defnyddio’r gair swanc (positif) i bwysleisio hyn.

​

Yn yr ail bennill…

A’i thyrau hi’n wyn ar y gorwel

y hi oedd prif ddinas y byd;

a swanc oedd cael clywed ei hacen

wrth wrando ei sgwrs ar y stryd.

8 of 12

Lerpwl

Yn y pennill olaf…

Yn y pennill olaf mae’r bardd yn..

​

  • Newid ei feddwl / newid ei deimladau
  • Dweud bod mynd i Lerpwl ddim yn peth positif rhagor
  • Roedd e arfer bod yn gyffrous i fynd i Lerpwl achos roedd y lle yn wahanol i Sir Ddinbych ond nawr dydy Lerpwl ddim mor wahanol.
  • Mae llawer o bobl yn symud i Gymru felly mae llawer o acenion yn ardal y bardd.

Ond heddiw ‘dyw lleisiau y Glannau

ddim mwyach yn arwydd o sbri.

Does dim angen siwrne i Lerpwl

a Lerpwl ‘di dod ataf fi.

9 of 12

Matsiwch..

​

​

Ar ddechrau’r gerdd, mae’r bardd yn cofio pan roedd e’n ifanc. Mae e’n cyfeirio at amser pan oedd e’n “llanc yn Sir Ddinbych”.

In the final verse Grahame Davies uses negative words such as ‘ddim’ and ‘dyw’ which shows us that his feelings are different as an adult.

Mae Sir Ddinbych yn hollol wahanol i Lerpwl achos mae Sir Ddinbych yma yng Nghymru ond mae Lerpwl ‘Dros y ffin’ yn Lloegr. Roedd hyn yn gyffrous i Grahame Davies.

In the second verse Grahame Davies refers to the towers. The white towers mean that the buildings are high and shining. Also, there are several white buildings in Liverpool.

Yn yr ail bennill mae Grahame Davies yn cyfeirio at y tyrau. Mae ‘tyrau’n wyn’ yn golygu bod yr adeiladau yn uchel ac yn disgleirio. Hefyd, mae sawl adeilad gwyn yn Lerpwl.

At the start of the poem, the poet remembers a time when he was young. He refers to a time when he was a “young boy in Denbighshire”

Yn y pennill olaf, mae Grahame Davies yn defnyddio geiriau negyddol fel ddim a ‘dyw, sy’n dangos bod ei deimladau yn wahanol fel oedolyn.

Denbighshire is very different to Liverpool because one is in Wales and the other is ”across the border” in England.

​

10 of 12

Cloi – Llenwch y bylchau

​

  • Ym mhennill un mae’r bardd yn cofio amseroedd pan oedd e’n ____.
  • Mae agwedd y bardd yn ___ ar ddechrau’r gerdd.
  • Ar ddiwedd yr ail bennill, mae’r bardd yn sôn am glywed pobl yn siarad ar y _____.
  • Yn y pennill olaf, mae Grahame Davies yn meddwl bod pethau wedi ____.
  • Mae’r gerdd yn dechrau mewn ffordd ____ ond erbyn y diwedd mae teimlad o ______.

​

11 of 12

Cloi – Llenwch y bylchau

​

  • Ym mhennill un mae’r bardd yn cofio amseroedd pan oedd e’n ifanc.
  • Mae agwedd y bardd yn gadarnhaol ar ddechrau’r gerdd.
  • Ar ddiwedd yr ail bennill, mae’r bardd yn sôn am glywed pobl yn siarad ar y stryd.
  • Yn y pennill olaf, mae Grahame Davies yn meddwl bod pethau wedi newid.
  • Mae’r gerdd yn dechrau mewn ffordd bositif ond erbyn y diwedd mae teimlad o dristwch a ddicter.

​

12 of 12