1 of 25

2 of 25

[1.1]

Data Analog a Data Digidol

3 of 25

Data Analog

​

Data sy’n cael ei gynrychioli mewn ffordd ffisegol.

​

Mae data analog yn amrywio’n barhaus ac yn

nodi pob naws o’r hyn sy’n cael ei fesur.

​

Esiamplau

• Ein lleisiau

• Y sain sydd yn dod o unrhyw offeryn acwstig

• Rhychau ar record finyl.

• Cysgod ar ddeial haul.

​

4 of 25

Data Digidol

​

Cyfuniad o rifau 1 neu 0 yw data digidol.

​

Mae cyfrifiaduron yn defnyddio data digidol i gynrychioli data.

​

Esiampl

• Storio sain yn ddigidol

• Samplu yw mesur lefel sain nifer o weithiau yr eiliad ac yn recordio hyn fel digidau deuaidd.

​

​

5 of 25

Graffeg

​

Mae graffeg didfap du a gwyn yn defnyddio did (1 neu 0) i gynrychioli dotiau gwyn (0) a du (1).

​

Mae’r dotiau’n cael eu galw’n bicseli.

​

Mae’n bosib cynrychioli 256 lliw trwy ddefnyddio beit (8 did) ar gyfer bob picsel.

​

6 of 25

Sain

​

Er mwyn cynrychioli sain analog fel data digidol, mae’r broses o samplu yn cael ei ddefnyddio.

​

Samplu yw lle mae caledwedd, fel meicroffon, yn mesur lefel sain nifer o weithiau yr eiliad ac yn recordio hyn fel digidau deuaidd.

7 of 25

Trawsnewid

​

Mae trawsnewidydd analog-digidol (A/D) yn gylched electronig sy’n trosi signalau parhaus i rifau digidol arwahanol. Er mwyn cyfnewid y signal yn ôl, mae’n gwrthwneud y broses.

​

Mae trawsnewidydd digidol-analog (D/A) yn gylched electronig ar gyfer trosi signal digidol i signal analog (cerrynt, foltedd neu wefr drydanol).

​

​

​

​

​

8 of 25

Math data

Data Analog

Data Digidol

Manteision

Gan fod data parhaus yn cael ei storio, nid oes unrhyw ddirywiad yn ansawdd y data.

Mae angen llai o le ffisegol er mwyn storio data ar ffurf ddigidol, gan fod dyfeisiau storio digidol yn llai o faint (cymharwch ddisg finyl yn erbyn ffon gof).

Anfanteision

Mae data analog yn gallu dirywio wrth iddo gael ei gopïo neu ei

drosglwyddo o ganlyniad i lygredd gan signalau o offer recordio.

O ganlyniad i ddata’n cael eu samplu, nid yw’r data’n cael eu cofnodi yn ei gyfanrwydd, o ganlyniad, gall data digidol fod yn llai manwl gywir ac o ansawdd is na data analog.

9 of 25

[1.2]

Storio Data’n Ddigidol

10 of 25

Cynhwysedd

​

Dim ond digidau deuaidd, sef DIDau, y gall systemau cyfrifiadurol eu storio a’u prosesu.

​

Mae DID naill ai’n 1 neu’n 0.

​

Pan fydd 8 did yn cael eu storio fel rhif deuaidd, mae’r term beit yn cael ei ddefnyddio amdanyn nhw gyda’i gilydd.

DIDau

Beit: 8 DID (Byte)

Yr enw ar hanner Beit, sef 4 DID, yw ‘Darn’. (Nybble)

11 of 25

Cynhwysedd

​

Wrth i storfa gynyddu, mae angen unedau arnom ni.

​

Defnyddiwn y rhagddodiaid (prefix) isod.

​

​

1024 x 1024 beit =

1,048,576 beit

Meintiau mawr IAWN.

Efallai’n llai tebygol o ymddangos mewn arholiad.

12 of 25

Cywasgu Digolled

​

Mae cywasgu digolled yn defnyddio algorithm sy’n cywasgu data i ffurf a all gael ei datgywasgu yn ddiweddarach heb golli data, gan ddychwelyd y ffeil i’w hunion ffurf wreiddiol.

​

Mae’n ddewis gwell na chywasgu colledus pan fyddai colli unrhyw fanylion, er enghraifft mewn rhaglen gyfrifiadurol neu ddogfen wedi’i gairbrosesu, yn gallu cael effaith niweidiol.

​

​

​

​

​

Ffeil wreiddiol

Cyfeirnod Picsel

Lliw

0,0

Tryloyw

0,1

Tryloyw

0,2

Tryloyw

0,3

Tryloyw

0,4

Tryloyw

0,5

Tryloyw

0,6

Tryloyw

0,7

Tryloyw

0,8

Tryloyw

0,9

Tryloyw

Ayyb - 256 rhes i gyd!

Ffeil gywasg

Cyfeirnod Picsel

Lliw

0,0 - 1,6 / 1,15 / ayyb.

Tryloyw

1,7 - 1,14 / 2,4 / ayyb.

Coch

2,5 / 3,4 - 3,5 / 3,8 / ayyb.

Gwyn

2,6 - 2,7 / 3,6 - 3,7 / ayyb.

Glas

13 of 25

Cywasgu Colledus

​

Mae cywasgu colledus yn dechneg sy’n cywasgu maint y ffeil drwy waredu rhywfaint o’r data.

​

Bwriad y dechneg yw lleihau swm y data sydd angen eu storio.

​

14 of 25

Cymhareb gywasgu

Gallwn ni gyfrifo’r gymhareb gywasgu drwy’r fformiwla yma:

​

​

​

​

​

NODWCH:

Allwch chi ddod â chyfrifiannell i’r arholiad, rhag ofn bod cwestiwn tebyg yn ymddangos.

15 of 25

Storfa eilradd

​

​

​

Mae’r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio mewn disgiau caled a thapiau. Bydd data’n cael eu storio ar gyfrwng magnetig, a all fod yn ddisg neu’n dâp, drwy ysgrifennu data â phen ysgrifennu (write- head). Yna, bydd y pen darllen (read-head) yn gallu darllen y data.

Mae technoleg cyflwr solet yn

cael ei defnyddio mewn cyfryngau storio fel ffyn cof fflach USB a gyriannau mewnol SSD. Mae’r dechnoleg yn cael ei galw’n dechnoleg cyflwr solet oherwydd does ganddi ddim rhannau sy’n symud, fel pen darllen storfeydd magnetig.

Magnetig

​

​

​

Cyflwr solet

​

​

​

16 of 25

Storfa eilradd

​

​

​

Dull storio lle mae data’n cael eu trosglwyddo a’i storio ar systemau storio o bell, lle maen nhw’n cael eu cynnal, eu rheoli, a’u cadw wrth gefn dros rwydwaith - y rhyngrwyd fel arfer. Yn gyffredinol, mae defnyddwyr yn talu am eu storfa ddata cwmwl am bris misol fesul cynhwysedd. Er dywedwn ni ‘y cwmwl’ mae’r data yn cael ei storio ar ddisgiau caled neu SSDau ar safle o bell.

Mae cyfryngau storio optegol yn defnyddio technoleg fel laserau. Mae pelydrau laser yn cael eu taflunio ar CD/DVD neu ar ddisg Blu-ray, ac os bydd golau’n cael ei adlewyrchu’n ôl, bydd data’n cael eu darllen fel 1. Os na fydd golau’n cael ei adlewyrchu’n ôl, bydd data’n cael eu darllen fel 0. Mae laserau’n cael eu defnyddio i ddarllen ac ysgrifennu gwybodaeth ar ddisg.

Cwmwl

​

​

​

Optegol

​

​

​

17 of 25

[3.1]

Dulliau Cyfathrebu Digidol

18 of 25

E-bostio

​

Cymharu â’r post traddodiadol.

​

  • Cyfathrebu ag unrhyw un sydd â chyfeiriad e-bost unrhyw le yn y byd
  • Anfon e-byst yn gyflym iawn o’i gymharu â phost traddodiadol
  • Gellir eu hanfon 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn
  • Yn gymharol rad i’w hanfon.

19 of 25

Gwefannau ac apiau rhwydweithio cymdeithasol

​

  • Adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol
  • Diddordebau, gweithgareddau, cefndiroedd neu gysylltiadau bywyd.

​

​

20 of 25

Blogiau

​

  • Dyddiadur ar-lein
  • Pobl eraill i ddarllen eich postiadau ac edrych ar eich lluniau a’ch fideos.

​

​

21 of 25

Negeseua sydyn

​

  • Dau neu fwy o bobl mewn amser real
  • Mae negeseua sydyn yn anffurfiol iawn.

​

​

22 of 25

Fideo-gynadledda

​

  • Cyfarfod fideo byw rhwng dau neu fwy o bobl
  • Trosglwyddo sain, fideo, testun a chyflwyniadau mewn amser real.

​

​

​

23 of 25

Dulliau cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer busnesau

​

  • Fideo-gynadledda
  • Teleweithio
  • E-bostio
  • Apiau (e.e. Slack)

​

24 of 25

Dulliau cyfathrebu mewnol ac allanol ar gyfer busnesau

​

Hyrwyddo

  • Ebost
  • Cyfryngau cymdeithasol

​

​

​

25 of 25