1 of 23

Trosedd a Chosb:

Cwestiwn 7 - Traethawd

2 of 23

Natur ac achosion

Cosbi

Atal

Trosedd a Chosb:

Cwestiwn 7 - Traethawd

Natur - pa fath o droseddau?

Achosion- pam oedd pobl yn troseddu?

Cosbi - sut oedd pobl yn cael eu cosbi?

Agwedd - sut oedd agweddau wedi newid?

Agwedd tuag at orfodi cyfraith a threfn

Dulliau o atal troseddu - sut?

3 of 23

Rhaid cynnwys esiamplau o Gymru ym mhob cyfnod neu byddwch heb gyrraedd mwy na band 2!

Yn yr un modd, rhaid trafod y 3 chyfnod neu byddwch methu cyrraedd mwy na band 2!

PWYSO A MESUR!

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

4 of 23

3 chyfnod?

1500-1600

1700-1800

1900-2000

CYMRU!

5 of 23

I ba raddau mae’n bosib dweud mai tlodi fu prif achos trosedd dros amser? [16+4]

Natur ac achosion

6 of 23

I ba raddau mae’n bosib dweud mai tlodi fu prif achos trosedd dros amser? [16+4]

PWYSO A MESUR

PWYSO A MESUR

PWYSO A MESUR

7 of 23

8 of 23

Rhaid cynnwys esiamplau o Gymru ym mhob cyfnod neu byddwch heb gyrraedd mwy na band 2!

Yn yr un modd, rhaid trafod y 3 chyfnod neu byddwch methu cyrraedd mwy na band 2!

PWYSO A MESUR!

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

9 of 23

I ba raddau mae’n bosib dweud mai tlodi fu prif achos trosedd dros amser? [16+4]

Natur ac achosion

I ba raddau mae’n bosib dweud mai tlodi fu prif achos trosedd dros amser? [16+4]

Yn oes y tuduriaed reodd tlodi ddim yn y prif achos oherywdd bod roedd yno achosion fel brad a herasi sydd yn achosi pobl i drosiddu fel y pysgtwr yn cymru seddd wedi cael eu llosgi oherwydd bod roedd e yn protestnaywr a roedd mary 1 yn catholig. Roedd tlodi yn achosi fel bod roedd pobol yn crwydro hefo plin mawr ac yn dwyn pethau pobl neu bod chi yn cael cael cugg anafau. Yn fy marn i dwi yn meddwl bod roedd tlodi ddim yn priff achos o trosedd dwi yn medwl bod mae brad a hesasi.

​

Yn yr ail cyfnod roedd yn problem gan fod lladran penforth a y person mwyaf enwog oedd dick turpin pwy roedd wedi cael eu dienyddio yn pryd roedd e yn 37 blwydd oed a roedd pobl yn smuglo pethau i fewn ir gwlad engrhaift yw william Owen a roedd e yn smuglo yn yr 1730au on wedi cael e gohiddiou yn 1740au hefyd roedd yna sian cwlitroedd e yn muglo ar ogafau’r mor a yr un olaf yw y teulu lucas roedd nhw wedi smuglo am 200 blynnedd ond roedd y achos arall oedd roedd na lot o protsediadau oherwyd bod roedd pobl yn cael e replased hefo peirianau a roedd nhw yn colli eu swydd roedd nhw yn protestio fel y protestiad yn casnewydd neu y protestiad beca lle roedd 100 o perrianau wedi cael eu dinistrio a protestiad swing.

​

Yn y cofnod modern roedd tlodi dal yn problem trosedd erbyn hyn ond roedd troseddau newydd wedi cael eu creu technoleg fel cael eu hacio neu cael eich hinaniath eu dwyn nhw cael eu trackio ond hefyd mae na trosedau moduro hefyd fel gyrru dros y terfyn cyflymder neu gyrru wedi yfed alcahol. Hefyd y trosedd newydd arall oedd terrfysgaeth fel yr un yn llindain a efrog newydd.

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

10 of 23

Mae tlodi bob amser wedi bod yn un o brif achosion i bobl droseddu, hyd yn oed bod yna achosion eraill wedi bod trwy’r cyfnodau, mae tlodi wedi bod yn achos mawr ers cyfnod y Tuduriaid.

​

Rhwng y 16eg a’r 17eg ganrif, sef cyfnod 1, roedd pobl tlawd yn debygol o droi i droseddu i allu oroesi, felly troiodd lawer o bobl i grwydraeth. Roedd gan gwrydriaid lawer o ffyrdd gwahanol i allu oroesi yn cynnwys ‘Gwr Abraham’ sef pan byddai’n esgus bod yn wallgof, gan obeithio byddai’i ymddygiad bygythiol yn ennyn tosturi a rhoffion. Math arall cyffredin iawn oedd ‘Clapper Dudgeon’, byddai hwn yn rhoi arsenig ar ei groen er mwyn iddo waedu, gan obeithio y byddai’n ennill cydymdeimlad wrth gardota. Roedd y crwydriaid yn dibynnu ar droseddu er mwyn gallu goroesi, sy’n dangos roedd tlodi yn brif achos yn y cyfnod yma. Yn ogystal a crwydriaith, achos arall mawr o droseddu yng nghyfnod 1 oedd heresi. Cyflawni heresi yw i fynd yn erbyn crefydd y mawredd, llawer o’r amser yn y 16/17eg ganrif cafwyd pobl eu dienyddio’n gyhoeddus os oedden yn cyflawni’r drosedd hon. Roedd yna lawer o achosion o heresi gan fod y crefydd wedi newid gyda pob Brenin/Brenhines yn ystod y cyfnod yma. Yn amlwg, digwyddodd y drosedd yma yng Nghymru yn ogystal ac yn Lloegr, cafodd pysgotwr a’r enw Rawlins White ei losgi’n gyhoeddus yng Nghaerdydd yn 1555 am wrthod troi i’r ffyrdd Catholig yn ystod teyrnasiad Mari. Felly, yng nghyfnod 1, tra’n edrych ar y fathau o droseddau a cafwyd ei cyflawni, credaf taw tlodi oedd prif achos trosedd.

Tlodi oedd brif achos troseddu yng nghyfnod 2, sef rhwng y 18fed a’r 19eg ganrif. Daeth twf poblogaeth enfawr tra’n mynd mewn i’r Chwildro Diwydiannol ac achosodd hyn problemau economaidd mawr hefyd. Roedd yr amodau byw yn wael ar draws y wlad a gyrrodd hyn i gyd i bobl droseddu felly yn barod gwelwn taw tlodi oedd prif achos trosedd y chyfnod yma. I gefnogi fy mhwynt, smyglo oedd un o’r droseddau a ddigwyddodd yn amlaf o fewn y cyfnod yma

​

​

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

11 of 23

Smyglo yw’r drosedd o fewnforio neu allforio nwyddau yn gyfrinachol er mwyn osgoi tolldaliadau. Dangosa hyn fod tlodi yn rhan fawr o fewn smyglo, roedd smyglo’n caniatau prisoedd rhatach nag oedd yng Nghymru a Lloegr felly dyma pam wnaeth bobl cyflawni’r drosedd yma. Smyglwr oedd Sion Cwilt a weithredodd yng nghanol y deunawfed ganrif, storiodd y nwyddau yr oedd yn smyglo yn ogofau’r mor. Roedd yn byw mewn ty unnos ger Ceredigion, mewn ardal sydd erbyn hyn yn cael ei alw’n Banc Sion Cwilt. Hefyd, trosedd a digwyddodd yn aml yng nghyfnod 2 oedd terfysgaeth. Roedd Merched Beca yn grwp o ffermwyr (dynion) a oedd yn gwisgo mewn ddillad menywod tra’n ymosod ar dollbyrth ffyrdd de-orllewin Cymru oherwydd y rhenti uchel. Yn anffodus, cafwyd ceidwad tollborth, Sarah Davies, a oedd yn 75 mlwydd oed ei lladd mewn ymosodiad yn 1843. Digwyddodd yr ymosodiadau terfysgol yma rhwng 1839 ac 1843. Dangosa hyn sut gafodd tlodi effaith ar bobl ac achosodd iddyn nhw angen droseddu.

​

Dechreuodd technoleg i ddatblygu yn ystod y cyfnod modern, sef y 20fed i’r 21ain ganrif, felly daeth yn brif achos droseddu. Hyd yn oed bod tlodi dal i fod yn un o brif achosion troseddu, technoleg yn bennaf yw’r brif achos. Problem mawr ers i dechnoleg ddatblygu yw’r droseddau mae’n achosi, troseddau modur yw un o’r rhai sy’n digwydd amlach. Mae hwn yn cynnwys gyrru ac yfed, damweiniau a goryrru.

Technoleg arall sydd wedi cyfrannu at fwy o droseddau yw’r cyfrufiadur. Mae yna lawer o bobl nawr yn gwe-rwydo, dyma pan rydych yn anfon ebyst ffug i ddatgelu gwybodaeth pwysig a cyfrinachol e.e cyfrineiriau neu manylion banc. Hefyd mae aflonyddu wedi dod yn ‘boblogaidd’ iawn, aflonyddu yw pan defnyddiwyd y rhyngrwyd i anfon negeseuon anweddus neu ddirmygus at bobl benodol o rhan rhyw, hil, crefydd, cenedligrwydd neu rywioldeb. Dangosa hyn fod tlodi ddim yn achos drosedd mawr yn y cyfnod modern ond mae crefydd wedi dod nol i fod yn achos mawr. Erbyn hyn, mae’n fwy debygol o fod yn achos o hiliaeth neu terfysgaeth Islamaidd ynlle fod yn drosedd heresi.

I gasglu, awgrymir taw tlodi yw brif achos troseddu dros amser, hyd yn oed bod yna wedi bod achosion mawr arall hefyd, mae tlodi wedi bod yn achos cyson.

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

12 of 23

13 of 23

Pa dau fath o gwestiwn gallwch gael ar uned Cosbau?

Y fath o gosbau

Agweddau tuag at gosbi

14 of 23

Cwestiwn Traethawd Cosbi:

​

I ba raddau mae’n bosib dweud mai defnyddio carchardai oedd y prif ddull o gosbi dros amser? [16+4]

​

Yn eich ateb dylech wneud y canlynol:

-dangos sut mai’r carchar oedd y prif achos ddull o gosbi dros dri chyfnod hanesyddol

-trafod pwysigrwydd mathau eraill o gosbi dros dri chyfnod hanesyddol

-cyfeirio’n uniongyrchol at hanes Cymru.

​

15 of 23

16 of 23

​

​

I ba raddau mae’n bosib dweud mai defnyddio carchardai oedd y prif ddull o gosbi dros amser? [16+4]

​

Yn eich ateb dylech wneud y canlynol:

-dangos sut mai’r carchar oedd y prif achos ddull o gosbi dros dri chyfnod hanesyddol

-trafod pwysigrwydd mathau eraill o gosbi dros dri chyfnod hanesyddol

-cyfeirio’n uniongyrchol at hanes Cymru.

​

A oedd Carchardai yn cael ei defnyddio yn y cyfnod? (CAYC AA2)

​

​

Pa fath o ddechngeau arall a defnyddiwyd i gosbi pobl yn ystod cyfnod y yma? (FFEITHIAU PENODO AA1)

​

​

A oes enghraifft o Gymru o’r cyfnod yma i ddangos dull o gosbi? (CYMRU!AA1)

​

​

A’i Carchardai felly oedd y prid ddull o gosbi yn ystod y cyfnod yma? Pam felly? (PWYSO A MESUR - CAYC AA2)

17 of 23

Enghreifftiau o baragraff un

Enghraifft 1:

I ba raddau mae’n bosib dweud mai defnyddio carchardai oedd y prif ddull o gosbi dros amser?

​

Paragraff 1

Mae’n amlwg yng nghyfnod 1 nid oedd carchardai yn brif ddull cosbi, yn hytrach fe ddefnyddiwyd cosbau corfforol a chyhoeddus er mwyn sarhau troseddwyr o flaen eu cyd-ddinasyddion. Esiampl o hyn yw’r cyffion, roedd y dull yma yn gyffredin iawn, ac yn cynnwys caethiwo gerfydd eu pigyrnau mewn man gyhoeddus, roedd hawl gan bentrefwyr i daflu pethau megis cerrig a llysiau wedi pydru. Mae’n bosib dweud mai dienyddio cyhoeddus oedd y dull cosbi mwyaf poblogaidd yn ystod oes y Tuduriaid, oherwydd credir dylai’r gosb adlewyrchu’r drosedd. Credodd Rowland Lee, Arglwydd Lywydd i gynnal cyfraith a threfn o 1534 hyd at 1543, bod y Cymry yn “ddigyfraith”, felly cosbodd unigolion yn llym iawn trwy orchmynu crogi dros 5000 o ddrwgweithredwyr mewn naw mlynedd.

Enghraifft 2:

Dros amser, mae llawer o gosbau wahanol wedi cael ei defnyddio. Yn fwy diweddar, mae defnyddio carchardau oedd un o’r prif dulliau.

​

Yng nghyfnod un (1500-1699), roedd agweddau'r Tuduriaid tuag at gosbi yn gorffol iawn. Ei prif dull o gosbi oedd chwipio, ffanghellu, cyffion a dienyddio. Roedd chwipio a ffanghellu yn gosb corfforol cyhoeddus, a oedd yn achosi poen difrifol i’r troseddwr. Pwrpas ffanghellu oedd sarhau troseddwr gan ei fod yn cael ei gynnal mewn man cyhoeddus. Roedd y cyffion a rhigod yn dilyn yr un priodweddau, credwyd y byddai yn rhwystro rhagor o droseddu. Pasiwyd deddf Seneddol yn 1536 a 1542-43 i uno Cymru a Lloegr, roedd Rowlands Lee o farn bod y Cymry yn “ddigyfraith” ac bod y llowodraeth yn llym iawn. Felly gallwn gweld yn glir, roedd yna lawer o gosbau corfforol i gael yn oes y Tuduriaid, ond doedd dim defnydd o garchardai, felly nid oedd hyn yn y brif dull o gosbi yn y cyfnod yma.

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

18 of 23

Enghraifft 3:

Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, nid carchardai oedd y dull disgyblu mwyaf cyffredin, roedd troseddwyr yn cael eu cosbi trwy weithredoedd o drais a dienyddiadau cyhoeddus er mwyn diwygio’r troseddwr, dychryn y cyhoedd ac yn gyffredinol atal troseddu. Roedd carchardai’n aml yn cael eu defnyddio i ddal troseddwyr cyn eu dyddiad dienyddio yn debyg i’r gosb eithaf heddiw. Yn nganol y bedwerydd ar bymtheg ganrif roedd agweddau tuag at dienyddio gyhoeddus yn newid, cynnigodd y comisiwn brennhinol na ddylai dienyddiadau cyhoeddus digwydd. Yn sgil hyn, roedd galw am fwy o ddefnydd o garchardai Digwyddodd y dienyddiad cyhoeddus olaf yng Nghymru yn 1866, cafodd Robert Coe ei dienyddio am lofruddio John Davis.

Enghraifft 4: Yn y cynfnod y Tuduriad defnyddiwyd nifer o wahanol gosbau am wahanol troseddu. Un cosb defnyddwyd oedd y cosb chwipio/fflangellu, pwrpas y cosb corfforol yma oedd i achosi poen difrifol i’r corff troseddwr i ddysgu o i beidio ail adrodd y trosedd. Roedd y cosb yma hefyd yn cosb cyhoeddus sydd yn meddwl fel arfer roedd cynudlleidfa yn gwylio y troseddwr yn cael ei chwipio, effaith hyn oedd y cyhoedd yn gweld y troseddwr yn poen ac felly eisiau ysgoi yr un profiad gan lleihau y nifer o rheuolau roedden nhw’n torri.

Enghraifft 5:

I ba raddau mae'n bosib dweud mai defnyddio carchardai oedd y prif ddull o gosbi dros amser?

​

Dros amser, defnyddiwyd llawer o amrywiaeth o gosbau, dechreuon i ddefnyddio carchardai fel math o gosb yn fwy yn nghyfnod 2.

Yng nghyfnod 1, sef oes y Tuduriaid (1500-1699), roedd y Tuduriaid yn hoff iawn o ddefnyddio cosbau corfforol a oedd yn y brif ddull yn yr oes yma. Un enghraifft o gosb corfforol a ddefnyddiwyd yn aml oedd y cyffion a rhigod, dyma oedd pan cafwyd y troseddwyr eu dal mewn ffram pren mewn man cyhoeddus. Gall y dorf taflu cerrig a llysiau wedi’w pydru atyn nhw, e.e dywedodd John Waller celwydd yn y llys a dilynodd hyn iddo farw yn y rhigod gan cerrig taflwyd gan y dorf. Dangosa hyn fod carchardai ddim yn dull a chafodd ei ddefnyddio yng nghyfnod 1. Cosb arall defnyddiwyd yn oes y Tuduriaid oedd dienyddio cyhoeddus. Credon nhw dylai’r gosb adlewyrhcu’r trosedd felly rhoddwyd y gosb eithaf am frad, ffugio a llosgi bwriadol. Hefyd, dienyddiwyd lladron am ddwyn nwyddau a oedd yn werth mwy nag un swllt.

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

19 of 23

I ba raddau mae agweddau tuag at gosbi wedi newid dros amser?

20 of 23

21 of 23

AA1: Cymru + ffeithiau penodol

AA2 : Pwyso a mesur dros 3 chfynod

Yn cyfnod y Tuduriaid roedd agwedd llym tuag at cosbi ac roedd yn corfforol iawn. Defnyddiwyd chwpio a’r cyffion er mwyn sarhau i atal ail-droseddu ac defnyddio fel cosb llym. Hefyd, roedd llosgi yn cosb cyffredin yn ystod y cyfnod yma ar gyefr hersi sef mynd yn erbyn crefydd y brenin neu frenhines. Cafodd Rawlins White, pysgotwr o Gaerdydd ei losgi am heresi. Yn y cyfnod diwydiannol roedd y gosb eithaf dal yn cael ei defnyddio fel math o gosb. Defnyddiwd alltudio a thrawsgludo fel ffordd o ehangu’r hymerodraeth ac i gosbi trwy dangon troseddwyr Lewis Lewis un o terfysgwyr Merthyr ei drawsgludo am oes yn lle cael y gosb eithaf. Roedd carchardai hefyd yn cael ei defnyddio ac roedd y system ar wahan yn cael ei defnyddio mewn llawer o garchardai er mwyn neud y carcharion yn fwy parod i siarad i clegwyr ond ni wnaeth hyn gweithio ac arweniodd ar lawer o hunanladdiadau. Yna roedd diwgygwyr carchardai fel Elizabeth Fry yn ceisio dechrau diwygio carcharwyr trwy dysgu sgiliau penodol iddynt.

Yn y cyfnod modern roedd llai o ffocws ar gosbi ac fwy ar ddiwygio. Mae carcharion yn cael ei weld fel cosb yn ei hun ac roedd carachardai agored yn ceisio sicrhau bdo troseddwyr yn fwy parod i byd bywyd ar y tu allan. Bellach, mae’r gosb eithaf wedi cael ei ddymchwel am rhan fwyaf o droseddau erbyn 1969. Pobl olaf i gael eu dienyddio oedd Timothy Evans a Ruth Ellis. Roedd yr achosion yma wedi newid agwedd piobl tuag at defnydd y gosb eithaf,

​

Felly, dros amser, mae agweddau tuag at gosbi wedi newid llawer, o fod yn llym ac yn gorfforol i bwysleisio ar ddiwygio troseddwyr.

I bar raddau mae agweddau tuag at gosbi wedi newid dros amser? [16+4]

22 of 23

Cwestiynau 7 i ymarfer:

​

Mae’r cwestiwn hwn yn trafod achosion a natur troseddau.

  • I ba raddau mae’n bosibl dweud mai ffactorau economaidd oedd y prif reswm dros droseddu dros amser?
  • I ba raddau mae’n bosibl dweud mai aflonyddwch gwleidyddol oedd y prif reswm dros droseddu dros amser?
  • I ba raddau mae’n bosibl dweud mai lladrata yw’r drosedd fwyaf cyfffredin dros amser.
  • I ba raddau mae’n bosibl dweud mai smyglo yw’r drosedd fwyaf cyffredin dros amser.

​

Atal- Gorfodi gyfraith

  1. I ba raddau mai gweithredoedd unigolion preifat oedd y ffactor pwysicaf wrth ymladd troseddau ar hyd y canrifoedd?
  2. A yw dulliau o ymladd trosedd bob amser wedi bod yn Ilwyddiannus dros amser?

Cosbi + agwedd

1.I ba raddau mae’n bosib dweud mai newidiadau mewn agweddau cymdeithasol oedd y prif reswm dros newidiadau mewn cosbi rhwng 1500 a heddiw?

2. I ba raddau mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?

I ba raddau mae’n bosibl dweud mai carchardai oedd y dull o gosbi mwyaf llwyddiannus dros amser?

23 of 23

Ewch i wefan CBAC TGAU Hanes.

Cliciwch ar adnoddau

Cliciwch ar drefnwyr Gwybodaeth