Bethan Gray
Cefndir Bethan Gray
Mae gan Bethan Gray, dylunydd o Gymru sydd wedi ennill gwobrau gefndir eithriadol. Mae ei theulu yn hannu o lwyth hynafol Rajasthani a ymfudodd dros ganrifoedd ar draws Arabia a Phersia cyn ymgartrefu yn y fro Gymraeg Celtaidd. Mae'n dreftadaeth sydd a dylanwadau ac ysbrydoliaeth gyfoethog, sy’n tynnu ar draddodiadau crefft y Dwyrain a’r Gorllewin.
Mae arddull unigryw Bethan yn datgelu ei chariad o fanylder, gwead a deunyddiau moethus/crand fel cerrig gwerthfawr, marmor, pren, a lledr wedi ei drin â llaw. Mae patrymau cymhleth o oleuni a thywyllwch, gwead, purdeb llinell, gloywder, harmoni a llygad dda am fanylder yn diffinio ei harddull hynod wreiddiol. Mae ei sgiliau wrth gyfuno technoleg dylunio flaengar gyda gwybodaeth drylwyr o werthoedd crefftwaith traddodiadol yn atseinio ar draws diwylliannau
Cafodd ei theithiau yn India, Asia, y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica a De America eu hysgogi gan ei chariad a'i chwilfrydedd am eu celfyddyd. Mae ei chartref yn Llundain yn drysor o wrthrychau a ddaeth yn ôl o’i theithiau sy’n ffynonellau o ysbrydoliaeth a phleser. Yn ei blynyddoedd fel dylunydd mae hi wedi gweithio'n agos gyda chrefftwyr o bob cwr o'r byd, gan ddatblygu ei llygad am y prin a’r rhyfeddol. Mae ei synnwyr o batrwm, lliw a ffurf wrth wraidd popeth y mae hi'n ei ddylunio.
Mae ceinder a harmoni ei gwaith, sydd wedi ei greu trwy gyfuniad o dechnoleg dylunio arloesol a gwybodaeth ddwys o grefftwaith traddodiadol, yn rhoi safon oesol sy’n goresgyn tueddiadau. Yn dilyn graddio o De Montfort, gyda gradd mewn Dylunio Tri Dimensiwn, darganfuwyd Bethan gan Tom Dixon yn 1998 pan enillodd hi’r Wobr Dylunydd Newydd.
Dylanwad De America
Dylanwad India
Cerrig Gwerthfawr
Trywydd at Enwogrwydd
Arweiniodd hyn at swydd fel Cyfarwyddwr Dylunio yn Habitat, a roddodd gipolwg unigryw iddi ar fanwerthu byd-eang. Gadawodd hi i sefydlu ei stiwdio ei hun yn 2008, i ehangu ei chleientiaid a gweithio gyda'r deunyddiau moethus yr oedd hi mor angerddol amdanynt. Mae gan Bethan bersonoliaeth gynnes a chynhwysol, mae cydweithio wrth wraidd ei harfer. Mae hi'n cynllunio casgliadau sy’n gwerthu’n dda a darnau proffil uchel ar gyfer manwerthwyr a brandiau byd-eang, gellir gweld ei chasgliadau preifat hynod mewn rhai o siopau mwyaf nodedig y byd, gan gynnwys Lane Crawford, Liberty a Harrods. Mae hi'n ymddangos yn helaeth yn y cyfryngau ac mae wedi arddangos yn Llundain, Milan, Paris ac Efrog Newydd. Cydnabuwyd ei gwaith yn ddiweddar gyda gwobr fawreddog 'Best Designer Designer' yn 2013/14.
Stiwdio Dylunio
Sefydlodd ei stiwdio eponymous yn 2008, mae cydweithio dylunio masnachol lwyddiannus wrth wraidd busnes Dylunio Bethan Gray. Mae gan y stiwdio hanes o lwyddiant masnachol, o ddarnau arbennig wedi archebu i’r manwerthwyr, gan gynhyrchu llawer o’r gwerthwyr gorau. Gyda dealltwriaeth ddwys o anghenion manwerthu a gwybodaeth helaeth o grefftwaith a thechnoleg gweithgynhyrchu flaengar, mae Bethan Gray Design wedi ymrwymo i ddarparu cynnyrch a phrosiectau rhagorol.
Mae Bethan Gray, dylunydd o Gymru sydd wedi ennill amryw o wobrwyon ac sydd wedi ei lleoli yn Llundain, yn cyfuno ei hangerdd am ddeunyddiau naturiol moethus - lledr, marmor a phren solid - gyda gwybodaeth helaeth o grefftwaith a thechnoleg arloesol.
Deunyddiau a Manylion
Cyfeirio diwylliannol, gan dynnu ar draddodiadau crefft gyfoes a clasurol y Dwyrain a'r Gorllewin, sydd wrth wraidd athroniaeth dylunio Bethan Gray.
“Mae gan Bethan Gray ddyfodol disglair - mae ganddi werthfawrogiad o’r deunyddiau mae hi’n eu trin a sylw cywrain at fanylder” Sir Terence Conran, The Times, Mehefin 2012.
Casgliad
Mae casgliad gwych Bethan, wedi’i wneud a llaw yn Llundain, yn ymgyffori ei harddull unigryw - cariad tuag at fanylion, gwead a deunyddiau naturiol moethus.
Partneriaeth gyda Dylunwyr ac Artistiaid eraill.
Mae Bethan yn falch iawn o gyflwyno Mohamad Reza Shamsian, artist enwog iawn o Iran i’r byd dylunio cyfoes.
Mae Casgliad Shamsian yn tynnu sylw at y dechneg fanwl o fewnosod/trosgaenu bras solid ac mewn osod cragen paua mewn pren solid lliw ac argaen masarn, gan greu patrwm hynod o fanwl a chywrain sy’n atgyfnerthu dyluniadau Bethan yn berffaith. Mae'r casgliad hynod yn cyfuno crefft draddodiadol gyda dyluniad modern, cain a chyfoes i greu esthetig gwirioneddol unigryw ac oesol.
Partneriaeth gyda Dylunwyr ac Artistiaid eraill.
Ei chasgliad papur wal cyntaf mewn cydweithrediad â NLXL, arloeswyr papur wal digidol. Mae NLXL LAB 3 yn cynnwys "syniadau disglair gan ddylunwyr gwych".
Casgliad ‘The Ruby Tree’
Cafodd hadau’r goeden Ruby eu plannu pan welodd Mitchell Abdul Karim Crites waith hynod y dylunydd Prydeinig byd-enwog Bethan Gray; ‘Black & White Stripes Collection’ Fel athro celfyddydol Islamaidd enwog sy’n cael ei adnabod am ei adfywiad o grefftwaith Islamaidd traddodiadol, cafodd ei syfrdanu gan harmoni a chymhlethdod y patrymau, cymaint yn arwydd nodedig o’r celfyddyd Islamaidd gorau.
Harrods
Mae partneriaeth fanwerthu a ddechreuodd fel siop pop-up chwe mis er mwyn dathlu London Design Festival 2014 yn parhau. Yn ddiweddar ffocws yr arddangosfa MADE WITH LOVE yn Harrods oedd Bwrdd Brogue wedi ei ddatgysylltu. Cafodd bwrdd clasurol Brogue Bethan ei arddangos mewn elfennau wedi’i datgysylltu, gan gynnwys ffurfiau crai’r deunyddiau naturiol, gan Harrods i gefnogi eu hymgyrch gyhoeddus i ddathlu crefftwaith moethus ar draws eu brandiau mwyaf poblogaidd. Roedd yr arddangosfa hon yn gweddu’n berffaith i adran gwerthu parhaol Bethan Gray sydd wedi ei leoli ar 3ydd llawr Harrods.
Wallpaper* Handmade
Mae Bethan Gray Design wedi cydweithio â Wallpaper * Handmade i greu cyfres o gynnyrch bwrdd. Mae'r casgliad wedi ei ysbrydoli gan gyfluniad cerrig du a gwyn ysblennydd sydd i’w gweld mewn adeiladau hanesyddol ar draws Ewrop, o Eglwys Gadeiriol Amalfi y nawfed ganrif yn Yr Eidal i San Giovanni Battista yr ugeinfed ganrif yn Mogno, Y Swistir.
John Lewis
Efallai mai dyma’r cydweithredu mwyaf llwyddiannus yn John Lewis, mae’r bartneriaeth wedi helpu John Lewis ailosod eu hunain lleoliad blaenllaw ar gyfer dylunio cyfoes yn y Deyrnas Unedig. Mae Bethan Gray Design wedi dylunio nifer o gasgliadau gan gynnyws the best-selling, solid wood Newman dining range, Noah lighting range, Genevieve bedroom ranges.
Fideo Bethan Gray
Casgliad 2015 Harrods - Cyfweliad gyda Bethan Gray
Casgliad Max storage: Storfa Derw ac unedau Teledu gan Bethan Gray i Habitat UK
Bethan Gray i Lapicida Brogue Tables
Gwneuthurwyr CNC i Lapicida Brogue Tables
Cwestiynau i’ch arwain at ateb y traethawd:
Paratoi ar gyfer yr Arholiad
Ysgrifennwch draethawd byr am Bethan Gray
Disgrifiwch hanes ei gwaith gan gynnwys ei amrediad cynnyrch, dyfeisiau allweddol, dylanwadau a thechnegau. Defnyddiwch ddarluniau wedi labelu i gefnogi eich traethawd.