1 of 35

CLEBER Y CARDI

Pecyn o weithgareddau yn seiliedig ar rai o ddywediadau / idiomau ein sir ni.

2 of 35

Ydych chi’n adnabod . . . dywediadau ein sir?

3 of 35

Gwaith Celf Rhys Padarn Jones, Orielodl

4 of 35

Gwaith Celf Rhys Jones, Orielodl

Allwch chi enwi’r tirnodau / llefydd hyn?

5 of 35

Beth am fynd ati i greu eich gwaith celf eich hun, yn seiliedig ar eiriau neu ddywediadau Ceredigion?

Gwyliwch Rhys Jones wrth ei waith er mwyn cael ysbrydoliaeth!

6 of 35

Llenwch y bylchau!

7 of 35

Gêm Paru!

8 of 35

Crëwch frawddegau yn cynnwys idiom neu air . . .

Faint allwch chi greu mewn 2, 5 neu 7 munud?

Roedd y ddwy chwaer / ddau frawd mor debyg …

Bydda i’n hwyr i’r ysgol os na fyddai’n ...

Mae’r ffenest wedi torri’n ...

Rydw i a fy nghefnder yn dadlau fel ...

Doedd dim gwec pan ...

Mae mam yn cwyno bod ei chof fel ...

9 of 35

Dywediad yr Wythnos

10 of 35

bachan bras

rhywun hunanbwysig

11 of 35

codi hen grachen

ail ymweld â rhywbeth poenus

12 of 35

tato o’r un rhych

pobl tebyg i’w gilydd

13 of 35

siapo stwmps

hastu / brysio

14 of 35

rhacs jibiders

wedi torri’n llwyr

15 of 35

mesen ym mola hwch

ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth

16 of 35

fel ci a hwch

anghytuno

17 of 35

dim gwec

ddim yn gwneud unrhyw sŵn

18 of 35

dala slac yn dynn

peidio â gwneud rhyw lawer

19 of 35

cwmpo mas â’i

gysgod

dadlau gydag unrhyw un

20 of 35

cysgu ci bwtshwr

esgus cysgu

21 of 35

cof fel gwagar

cof gwael iawn

22 of 35

whys stecs drabwd

wedi chwysu’n ofnadwy

23 of 35

cadno o ddiwrnod

tywydd twyllodrus

24 of 35

byw lle mae’r brain

yn trigo

byw ble na all ddim byd arall

25 of 35

bachan bras

codi hen grachen

tato o’r un rhych

siapo stwmps

26 of 35

rhacs jibiders

mesen ym mola hwch

fel ci a hwch

dim gwec

27 of 35

dala slac yn dynn

cysgu ci bwtshwr

cwmpo mas â’i gysgod

cof fel gwagar

28 of 35

whys stecs drabwd

cadno o ddiwrnod

byw lle mae’r brain yn trigo

29 of 35

Gêm Fwrdd Idiomau

30 of 35

Cyfarwyddiadau Gêm Fwrdd Idiomau

Cymerwch dro yn symud o amgylch y bwrdd. Wrth lanio ar sgwâr bydd angen enwi’r idiom ac esbonio’r ystyr. Os na all chwaraewr feddwl am yr ystyr gall y chwaraewr arall gynnig atebion posibl. Er enghraifft, ‘Dala slac yn dynn’ - ydy hynna’n golygu dal rhywbeth yn dynn neu peidio â gwneud rhyw lawer?

bachan bras

rhywun hunanbwysig

rhacs jibiders

wedi torri’n llwyr

codi hen grachen

ail ymweld â rhywbeth poenus

mesen ym mola hwch

ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth

tato o’r un rhych

pobl tebyg i’w gilydd

fel ci a hwch

anghytuno

siapo stwmps

hastu / brysio

dim gwec

ddim yn gwneud unrhyw sŵn

31 of 35

Cyfarwyddiadau Gêm Fwrdd Idiomau

Cymerwch dro yn symud o amgylch y bwrdd. Wrth lanio ar sgwâr bydd angen enwi’r idiom ac esbonio’r ystyr. Os na all chwaraewr feddwl am yr ystyr gall y chwaraewr arall gynnig atebion posibl. Er enghraifft, ‘Dala slac yn dynn’ - ydy hynna’n golygu dal rhywbeth yn dynn neu peidio â gwneud rhyw lawer?

dala slac yn dynn

peidio â gwneud rhyw lawer

whys stecs drabwd

wedi chwysu’n ofnadwy

cysgu ci bwtshwr

esgus cysgu

cadno o ddiwrnod

tywydd twyllodrus

cwmpo mas â’i gysgod

dadlau gydag unrhyw un

byw lle mae’r brain yn trigo

byw ble na all ddim byd arallll

cof fel gwagar

cof gwael iawn

32 of 35

Syniadau Sydyn!

  • Creu posteri ar gyfer idiomau / dywediadau’r Sir (yn enwedig y rhai o’r rhestr ychwanegol).

  • Paratoi a recordio fideo sy’n cyfleu’r idiomau / dywediadau ar gyfer rhieni neu lywodraethwyr yr ysgol.

  • Ysgrifennu sydyn - faint o idiomau / dywediadau allwch chi eu cofio mewn 2 / 3 / 4 munud?

33 of 35

Rhestr o ddywediadau eraill Ceredigion!

Dywediad

Ystyr

byti drysu

bron â mynd yn ddwl

clonc bola claw’

siarad yn hamddenol mewn criw

damsgen wye’

bod yn ofalus

fel tân shafins

cynnu ar unwaith a diffodd ymhen dim

gwlychu’r big

mynd am ddiod

hyd y bôn

hyd y gwraidd

ma isie rhoi’r cel yn y trasis

dysgu rhywun i fod yn well

ma’ sens yn yfed cawl â rhaw

rhywbeth sy’n afresymol

man a man â Shanco

yr un man yn gywir

Dywediad

Ystyr

mynd ar gered

byth adre neu bod hi fel ffair

rhoi pabwr iddi

angen gwasgu’r sbardun

codi’r rhastal

peidio â bwyta cymaint

trot hwch a galap mochyn

symud yn lletchwith

whilbero mwg

rhywun sydd dim yn gwneud rhyw lawer

browlgi / browlgast

rhywun siaradus iawn

carreg lanw

rhywbeth sydd heb fod o werth mawr

clapgi / clapgast

rhywun sy’n methu cadw cyfrinach

34 of 35

Rhestr o ddywediadau eraill Ceredigion!

Dywediad

Ystyr

deryn o bant

rhywun nad sy’n dod o’r ardal

dou ddwbwl a phlet

yn wargam

fel hwch yn swêts

barus neu anniben

fel poni

yn iach a llawn bywyd

lliw gole loiad

rhywun llwyd / gwelw yr olwg

magu cwils

tyfu i fyny a magu hunanhyder

ceglyn

rhywun eiddil iawn

wilibowan

rhywun sydd ddim yn gweithiol

Dywediad

Ystyr

yn tampan

yn grac iawn

spengan

gwawdio

bibus

di-hwyl

bigitan

pryfocio

cintachu

cwyno

clebran

siarad

comopo

dweud y drefn wrth rywun

ffeindio cyhudd

dod o hyd i gysgod rhag yr haul

35 of 35

Rhestr o ddywediadau eraill Ceredigion!

Dywediad

Ystyr

dim llefeleth

dim syniad

matryd

dadwisgo

halio

cario neu symud rhywbeth trwm

lapswchan

cusanu llawer

masgal

plisgyn

moelyd

rhywbeth wedi mynd wyneb i waered

rem-rem o hyd

yr un hen gân o hyd

whare wic wew

rhywun melltigedig

Dywediad

Ystyr

jengyd

dianc

panso

cymryd amser

pipo

edrych

wedjen / sboner

y cariad

trampan

joio mynd am dro

bechingalw

pan ddim yn cofio’r enw cywir neu’r cof yn pallu

cropad

rhywun sy’ wedi torri ei wallt

ffein

neis / hyfryd / blasus