1 of 5

Corff

Geiriau

Meddwl

Cynulleidfa

Pedair Elfen Llafaredd Llwyddiannus

2 of 5

Corff

Rhaid ystyried eich corff …

Rhai pethau i’w cofio ...

  • Sefyll neu eistedd mewn ffordd addas
  • Cyswllt llygaid â’r bobl sy’n gwrando arnoch chi
  • Amrywio tôn a lefel eich llais a pha mor gyflym / araf rydych chi’n siarad
  • Defnyddio ystumiau corff addas, e.e. eich wyneb a’ch dwylo

3 of 5

Geiriau

Rhaid ystyried eich iaith …

Rhai pethau i’w cofio ...

  • Defnyddio geiriau sy’n addas i’r pwnc
  • Defnyddio iaith ffurfiol neu anffurfiol fel sy’n addas i’r sefyllfa a’r cyd-destun
  • Amrywio trefn brawddegau er mwyn cadw diddordeb
  • Defnyddio technegau, e.e. ail-adrodd, cwestiynau rhethregol, er mwyn ‘creu cyswllt’ â’r gwrandawyr

4 of 5

Meddwl

Rhaid ystyried eich syniadau …

Rhai pethau i’w cofio ...

  • Cynllunio’n ofalus a dewis y pethau pwysicaf i’w trafod
  • Trefnu eich syniadau a’u hesbonio’n glir
  • Cefnogi eich barn â rhesymau a thystiolaeth. Gallwch gynnwys profiad personol os yw’n berthnasol
  • Sicrhau bod eich sylwadau yn berthnasol i’r pwnc wrth drafod gyda phobl eraill

5 of 5

Rhai pethau i’w cofio ...

  • Addasu cynnwys y gwaith i’r gynulleidfa
  • Cyflwyno’n hyderus, bywiog a brwd
  • Parchu pobl a safbwyntiau eraill bob tro
  • Gwrando yn ofalus ar gyfraniad pobl eraill
  • Ymateb yn gwrtais i sylwadau pobl eraill
  • Ceisio sicrhau bod pawb yn cyfrannu

Cynulleidfa

Rhaid ystyried pobl eraill …