Cynnig i ddatblygu cyfleusterau Clwb Chwaraeon Cymunedol
Drefach - Rhowch gynnig ar ein Cystadleuaeth i ennill £100
Mae Clwb Chwaraeon Cymunedol Drefach, sydd yn gartref i Glwb Criced a Phêl
droed Drefach, yn gyffrous iawn wrth feddwl am sut i ddatblygu adeilad y Clwb yn
Drefach.
Mae’r adeilad wedi bod yn adnodd pwysig iawn i’r clybiau criced a phêl droed dros y
blynyddoedd ond yn ddiweddar wrth i’r clybiau dyfu rydyn ni’n gweld ein bod wedi
tyfu’n rhy fawr i’r cyfleusterau presennol.
Rhai o’r problemau yw’r diffyg stafelloedd newid, sydd yn meddwl bod dim digon o le
i bawb i newid ar ddiwrnodau lle mae yna nifer o gemau ymlaen a diffyg lle i fwy nag
un tîm o oedrannau gwahanol i allu cwrdd yn gymdeithasol ar ôl gemau ar yr un
pryd.
Gyda dros 300 o aelodau ar draws y clybiau sydd gennym rydym o’r farn fod Clwb
Chwaraeon Cymunedol Drefach yn adnodd pwysig iawn i bentref Drefach ac i’r
gymuned ehangach. Rydyn hefyd yn ymwybodol fel Pwyllgor fod angen mwy o
glybiau, gweithgareddau ac adnoddau i’r gymuned trwy’r Clwb. Rydyn yn credu y
bydd y cynlluniau i ailddatblygu’r cyfleusterau presennol yn gwneud y Clwb yn fwy
croesawgar i’r gymuned ehangach ac i genedlaethau'r dyfodol ac mae gennym nifer
o glybiau a chymdeithasau yn barod sydd yn dangos diddordeb i ymuno ac i
ddefnyddio’r gwagle ar gyfer eu cyfarfodydd a gweithgareddau. Rydyn yn awyddus i
roi cyfle i’r gymuned rannu eu syniadau gyda ni.
Ein nod yw nid yn unig darparu cyfleusterau angenrheidiol i’r clybiau presennol ond i
greu lle i gwrdd sydd yn cael ei reoli ac yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned. Mae’n
bwysig yn ystod y cyfnod cynnar yma ein bod yn clywed barn ein trigolion er mwyn
bod adeilad Clwb Chwaraeon Cymunedol Drefach yn gallu darparu’r gwasanaethau
a chyfleusterau sydd eu hangen ar bawb, sydd yn darparu ffocws cymunedol i’r
pentref.
Byddem yn ddiolchgar os byddech yn rhoi peth o’ch amser i lanw'r ffurflen yma yn
electronig. Os byddwch yn cael trafferthion, byddwn yn hapus i roi cymorth drwy
gysylltu ag info@drefachfc.co.uk.
Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio i gynhyrchu trosolwg o’r sylwadau
a gafwyd a byddant yn cael eu rhannu gyda darpar gyllidwyr sydd â diddordeb
yn y prosiect yma. Ni fydd unrhyw ddata’n cael ei rannu sy’n adnabod
unigolyn neu deulu, heb gael eu caniatâd pendant ymlaen llaw.
2
Os hoffech gael eich cynnwys yn ein cystadleuaeth rhowch eich enw, cyfeiriad
ac e-bost (Gwirfoddol).