Ffurflen Adborth - Celf a Cherdd
Rachel Carney ydw i. Rydw i’n fardd ac yn fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio ysgrifennu creadigol mewn amgueddfeydd i gyfoethogi ymgysylltiad pobl â chelf. Hoffwn wybod beth yw barn ymwelwyr â’r amgueddfa am yr arddangosfa ryngweithiol yma.
Os byddwch yn penderfynu ysgrifennu cerdd eich hunan, mae croeso i chi ei hychwanegu at yr arddangosfa fel y gall ymwelwyr eraill ei darllen, neu fynd â hi adref os yw’n well gennych.
Bydd yr holl gerddi sy’n cael eu hychwanegu at yr arddangosfa yn llywio fy ymchwil. Byddaf yn ymweld â’r oriel bob ychydig ddyddiau i dynnu lluniau o’r cerddi.
Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech roi dwy funud o’ch amser i lenwi’r ffurflen adborth fer, ddienw yma…