Holiadur COVID-19 y Syrcas Ieuenctid
Ailagor Four Elms
Annwyl Ffrind,
Gobeithio’ch bod chi a’ch ffrindiau a’ch teulu yn iach ac yn cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. Dydyn ni ddim wedi gallu dod at ein gilydd yn Four Elms ers bron i bum mis ond gobeithio y gallwn ni ailagor yr adeilad yn ddiogel a’ch gweld chi yno eto cyn hir.
Rydym wrthi’n trefnu’r holl fesurau diogelwch y bydd arnom eu hangen er mwyn sicrhau bod yr adeilad a’r holl weithgareddau yn ddiogel i bawb pan allwn ailagor ac mae angen eich help chi arnom er mwyn deall eich anghenion a’ch teimladau yn iawn.
Diolch yn fawr am dreulio ychydig funudau’n llenwi’r holiadur.
Tîm NoFit State.