Pwy sydd yn gyfrifol am agor a chau'r adeilad os ydym am ei gynnig ar gyfer “Croeso Cynnes”?
Chi fel perchennog / rheolwr yr adeilad fydd yn gyfrifol am agor a chau, a dewis yr oriau y gallwch ei gynnig. Chi sydd hefyd yn dewis be yr ydych am ei gynnig yn yr adeilad / ystafell fel rhan o’r “Croeso Cynnes”. Gallai fod mor syml â lle cyfforddus i eistedd neu efallai eich bod eisoes gyda gweithgareddau ymlaen sy’n dod a phobl i mewn ac at ei gilydd, fel clwb panad a sgwrsio.
Who is responsible for opening and closing the building if we want to offer it for a “Warm Welcome”?
You as owner/manager are responsible for opening and closing, and choosing the hours you can offer. It is you that will also choose what you offer in the building/ room as part of your "Warm Welcome". This can be as simple as a comfortable space to sit, or perhaps you would already have activities happening that bring people together, such as a coffee and chat club.
Pwy sydd yn talu am ein hamser i agor a chau ac am y defnydd o’n hadeilad ni?
Pwrpas y cynllun yw trio defnyddio amseroedd tawel, ystafelloedd gwag neu weithgareddau sydd eisoes ar y gweill mewn adeiladau yn barod, a’u hyrwyddo fel llefydd gall pobl gael “Croeso Cynnes” ynddynt. Os nad ydych yn gallu darparu “Croeso Cynnes” oddi fewn i’ch trefniadau arferol cysylltwch gyda ni am sgwrs.
Who pays for our time to open and close and for the use of our building?
The purpose of the scheme is to try and promote and use quiet times, an empty room or pre-existing activities as places to offer a "Warm Welcome". If you cannot offer a "Warm Welcome" within your usual arrangements, then contact us to discuss.
Os ydym ni yn penderfynu cynnig adeilad / lleoliad ar gyfer rhoi “Croeso Cynnes i bobl” beth fydda chi’n ei wneud gyda’r wybodaeth hwnnw?
Wrth ofyn i bawb gwblhau’r holiadur hwn byddwn yn hyrwyddo'r wybodaeth honno ar wefan y Cyngor a Menter Môn ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Dim ond y wybodaeth y byddwch wedi ei nodi isod y byddwn ni’n ei hyrwyddo. Gallwch dynnu neu newid eich gwybodaeth ar unrhyw adeg gan fod amgylchiadau yn gallu newid.
If we decide to offer a building / location for giving a "Warm Welcome to people" what will you do with that information?
The information you provide in this questionnaire will be promoted on the Cyngor Gwynedd and Menter Mon website, and will be shared across our social media platforms. Only the information you note on this form will be shared. You can remove or edit your information at any time, as circumstances can change.
Be os ydym ni’n pryderu am les unigolyn sy’n dod i mewn i’r adeilad, neu sy’n gweithio o’r adeilad pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn dod i mewn?
Bydd gan nifer ohonoch drefniadau diogelu ac asesu risg eisoes mewn lle. Byddem yn argymell eich bod yn gwirio fod eich trefniadau yn addas ar gyfer cynnig “Croeso Cynnes”. Cysylltwch gyda ni os oes angen cymorth pellach arnoch.
What if we are concerned about the welfare of an individual who enters the building, or who works from the building when members of the public enter?
Many of you will already have safeguarding and risk assessment arrangements in place. We would recommend that you check that your arrangements are suitable for a "Warm Welcome" offer. Please contact us if you require further assistance.
Sut bydd y cynllun yn cael ei hyrwyddo:
Byddwn yn gyrru sticer a phoster i bob lleoliad ei arddangos yn eu ffenestr, ac yn rhannu'r wybodaeth berthnasol ar ein cyfryngau cymdeithasol.
How will the scheme be promoted:
We will be sending out a sticker and poster to every location that will be part of the scheme, and sharing the information on our social media platforms.
Monitro’r cynllun:
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda’r sefydliadau/ mudiadau / busnesau sy’n cymryd rhan er mwyn cael eich barn ac adborth am sut mae’r cynllun yn mynd yn ei flaen.
Monitoring the scheme:
We will be in touch with the participating organisations/organisations/businesses in order to get your opinion and feedback about how the scheme is progressing.