Bywyd Newydd i’r Hen Goleg

Mae’r Hen Goleg yn dirnod pensaernïol rhestredig gradd 1 ar lan y môr yn Aberystwyth ac yn gartref i Goleg Prifysgol cyntaf Cymru.

Mae prosiect 'Bywyd Newydd i'r Hen Goleg' yn trawsnewid yr adeilad eiconig hwn yn ganolbwynt ar gyfer diwylliant, treftadaeth a menter, ac yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol.

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i adfer yr Hen Goleg i’w hen ogoniant a’i adfywio er budd y gymuned gyfan: myfyrwyr a staff, cyn-fyfyrwyr a thrigolion lleol, pobl ifanc a theuluoedd, ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Rydym yn disgwyl 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn, a miloedd yn fwy drwy ymgysylltu digidol.

Mae’r gefnogaeth i brosiect yr Hen Goleg wedi bod yn anhygoel. Rydym yn hynod falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni hyd yn hyn diolch i haelioni ein cymuned o gyn-fyfyrwyr a ffrindiau. Ond gyda chostau cynyddol ac effaith barhaus chwyddiant, mae yna dipyn o ffordd i fynd eto cyn y gallwn ddod â’r adeilad godidog hwn yn fyw eto.

Fel rhan o ddatblygiad gweithgareddau ar gyfer prosiect yr Hen Goleg, rydym wedi comisiynu cwmni brandio Elfen i edrych ar y gwerthoedd mae ein prosiect yn eu cynrychioli yn ogystal â syniadau ar gyfer yr enw a’r brand. Mae Elfen wedi cynnal gweithdai rhagarweiniol gyda staff, a nawr dyma eich cyfle chi i gyfrannu at gam nesaf y gwaith hwn drwy gwblhau’r holiadur isod ac, os gallwch wneud hynny, drwy gyfrannu heddiw. Diolch.

Sign in to Google to save your progress. Learn more
RHAN 1
Y datblygiad

Fel y gwelwch o'r cynllun isod, mae'r prosiect yn cynnwys tri adeilad: adeilad yr Hen Goleg ei hun, y ddau Fila Sioraidd a'r Cambria, a arferai fod yn Goleg Diwinyddol. Mae hyn yn gyfanswm o dros 100 o ystafelloedd ar draws 7 llawr ac, ar ôl ei gwblhau, bydd yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau a gweithgareddau i bobl eu mwynhau.

Bydd y Llyfrgell yn ganolbwynt godidog, wedi’i hadfer ac yn agored i’r cyhoedd, a nifer o orielau yn arddangos arddangosfeydd teithiol yn ogystal â chasgliadau celf a gwyddoniaeth y brifysgol. Bydd un oriel yn adrodd hanes y Brifysgol yn erbyn cefndir addysg yng Nghymru. Rydym hefyd yn cynllunio Canolfan Wyddoniaeth gyda sinema, parth ieuenctid pwrpasol bydd yn cael ei redeg gan bobl ifanc a gofodau pwrpasol i fyfyrwyr, ystafell gyfraith gyda llys ffug ac unedau menter.

Bydd yr adeilad yn gartref i fwyty a chaffis, cyfleusterau cynadledda a gwesty bydd yn cynnwys dros 50 o ystafelloedd gwely. Amcangyfrifir y bydd y prosiect yn creu 60 o swyddi newydd ar y safle a 70 arall mewn busnesau lleol eraill, a channoedd o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.

Mae menter a chreadigrwydd wrth galon yr Hen Goleg, gyda gofodau i artistiaid a gwneuthurwyr ddatblygu eu gwaith a chanolfan menter greadigol i fyfyrwyr, staff a chymunedau lleol i’w cefnogi i fynd â’u syniadau o’r cysyniad i’r farchnad.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan haelioni Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr a’n ffrindiau a chan ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, bydd eu cyfraniadau, mawr a bach, yn cael eu dathlu yn yr Hen Goleg.

Y Cynllun
RHAN 2
Amdanoch chi
Cysylltiad â'r Hen Goleg
Amdanoch chi
Lleoliad
Clear selection
Amdanoch chi
Oedran
Clear selection
RHAN 3
Helpwch ni i lunio hunaniaeth yr Hen Goleg
Ychwanegwch eich adborth a'ch sylwadau at y rhai a gasglwyd ynglŷn â gwerthoedd prosiect yr Hen Goleg a helpwch ni i ysbrydoli syniadau am enw ar gyfer y datblygiad cyfan, neu ardaloedd penodol o fewn y ganolfan. Dyma'ch cyfle i ychwanegu eich barn a'ch syniadau.
Beth fydd y ganolfan yn gwneud?

Yn ystod y gweithdy gofynnon ni’r cwestiwn “Beth fydd y ganolfan yn ei wneud?” Bu'r cyfranwyr yn ystyried y gweithgareddau dyddiol yn ogystal â'r effaith ehangach ar ymwelwyr a'r gymuned leol. Rhestrir yr ymatebion isod:

Croesawgar, Cydweithio, Cyfleu ein treftadaeth, Gwario, Cyfle, Ymweld ac ail-ymweld, Unigryw, Delwedd cymreig balch, Cychwyn - sefydlu - cynyddu, Diddanu, Atyniad, Cysylltu pobl, Lletygarwch, Digwyddiadau, Mawredd, Arwyddnod dwyieithog, Dinesig, Arhoswch, Perthyn, Dysgwch, Cyfarwyddo ac ysbrydoli, Yfed, Diffinio Aberystwyth, Pontio’r gorffennol â’r dyfodol, Profiad 360o, Etifeddiaeth, Profiad, Sgiliau newydd, Hwyl, Tref a gŵn, Ehangu gorwelion, Ysbrydoli, Canu - Chwarae - Gwrando, Pontydd hen a newydd, Diwylliannol, Creadigrwydd, Hysbysu, Balchder, Cychwyn busnes, Machlud, Hiraeth, Yn unigryw ond yn hygyrch, Hyderus, Symudedd cymdeithasol, Ehangu gorwelion, Datblygu, Diwylliant ymdrochol, Cynhwysol, Grymuso, Cyfleustra cyhoeddus, Cofiadwy, Addysgu, Profiad newydd, Bwyta, Treftadaeth genedlaethol, Gwyddoniaeth dinesydd, Hudolus, Dathlu, Croeso, Profiad diwylliant, Darganfod, Atyniad twristiaeth, Bwyta, cysgu, dathlu, Ansawdd, Unigryw.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth i'w ychwanegu at y rhestr hon, gwnewch hynny isod:

Gwerthoedd y brand

Gofynnwyd i'r cyfranwyr drafod a chytuno ar wyth o werthoedd brand a oedd yn cynrychioli'r datblygiad newydd.

Dyma nhw:

Croesawgar

Unigryw

Arloesol

Ysbrydoledig

Dysgu

Byd-eang

Agored

Hwyl

Pe gallech ychwanegu un gwerth at y rhestr, beth fyddai hwnnw?

Hoffem i chi ystyried pwysigrwydd pob gwerth yng nghyd-destun y brand gweledol a'u sgorio ar raddfa o 1 i 10. Ychwanegwch eich sgorau isod:
Gwerthoedd y brand a'r brand gweledol

Croesawgar

Unigryw

Arloesol

Ysbrydoledig

Dysgu

Byd-eang

Agored

Hwyl

Geirfa

Gofynnon ni i'r cyfranwyr gynhyrchu geiriau sy'n gysylltiedig â'r safle (presennol a dyfodol). Roedd y rhain i fod mewn tri chategori, “Disgrifiadol”, “Hanesyddol” a “Lleoliad”.

Mae'r atebion o'r gweithdy ac o ymchwil ychwanegol wedi'u rhestru isod:

Disgrifiadol

Gothig, Syfrdanol, Mawredd, Canolfan, Waw, Ymgysylltu, Anghredadwy, Hanesyddol, Anhygoel, Diwylliannol, Atmosfferig, Mawreddog, Amgueddfa, Esoterig, Dewr, Moethus, Addysgiadol, Hiraethus, Bywiog, Cofiadwy, Cyfoethogi, Y Coleg, Coleg, Colaber, Haber, Hwbaber, Newidfa, Newidle, Glanfa, Y Lanfa, Agorle, Agorfa, Agora, Cyfle, Noddfa, Manaber, Cyfnod, Gwêl, Cyfan, Astudio, Astud, Heli (dŵr y môr), Tonnau, Maes …fa, Y Blaen, Blaen, Blaengar, Stryd, Glan…, Y bloc, Y stad, Casgliad, Dolen, Cadwyn, Aberaber, Aber Aber, Glanfa, Y lanfa, Glanio, Newid, Newydd-id, Angor.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth i'w ychwanegu at y rhestr hon, gwnewch hynny isod:

Hanesyddol

1867 (prynwyd), 1872 (agorwyd), Tân, Meson, Tŷ’r Castell, T.C.E., Joseph Parry, Iris De Freitas, Darlith, Carreg, Lan môr, Padarn, Ceredigion, Seddon, Cyntaf, Hugh Owen, Nesaf, Sefydliad Cymreig cyntaf, Gwesty Cambria, Gwesty’r Rheilffordd, Brenhinol, Dadl, Arfordir y Gorllewin, Traeth, Canolbarth, Cewri, Savin, Snap, Rudler, Cyfnewid, Tŵr, Coleg, Egwyddorol, Chateau, Promenâd, Creu Tonnau, Ystwyth, Drudwy, Branwen, Mosaig, Graffiti ar y Tŵr, Archemedes, Anghydffurfiwr, Cwad, Baneri, Ein Byd, Rheidiol, Carreg, Cylchlythyr, 1860, Drws, Dôr (lladin)?, Sioraidd

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth i'w ychwanegu at y rhestr hon, gwnewch hynny isod:

Lleoliad

Machlud, Gorwel, Bae Ceredigion, Haul, tywod, golygfeydd, Prom, Cefn Gwlad, Arfordir, Hinsawdd, Cartref, Addysg Uwch yng Nghymru, Panoramig, Môr, Rhifau, Dramatig, Gwynt, Côr, Cylch, Rownd, Drudwy, Arfordir y Cambrian, Ciciwch y bar, Diwedd y llinell neu ddechrau’r llinell, Byd o wybodaeth, Pictiwrésg, Arfordirol, Goleuni o dywyllwch, Gwybodaeth o anwybodaeth, Glan y môr, Tonnau, Aber, Storm, Ton, Angor, Gorwel, Tywod, Cragen, Roc, Rhes, Y Rhes, Caber, Unaber, Man, Colfan, Y Golfan, Y Golman, ...fan

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu unrhyw beth i'w ychwanegu at y rhestr hon, gwnewch hynny isod:

Pe bai'r datblygiad newydd yn cael enw newydd a oes gennych chi unrhyw feddyliau a syniadau am enw'r prif ddatblygiad a/neu yr adeiladau unigol?
Unrhyw sylwadau eraill?
Submit
Clear form
Never submit passwords through Google Forms.
This form was created inside of Elfen. Report Abuse