Mae angen enw ar gyfer amgueddfa newydd Wrecsam! 

Mae gwaith adeiladu ar y gweill i drawsnewid hen Adeiladau’r Sir sy’n 167 oed yng nghanol dinas Wrecsam i fod yn atyniad cenedlaethol newydd, nid ar gyfer Wrecsam yn unig, ond ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd yr amgueddfa newydd yn gartref i Amgueddfa Wrecsam ac orielau Amgueddfa Bêl-Droed Cymru.

Mae dau enw ar y rhestr fer ar gyfer yr amgueddfa newydd, yn seiliedig ar ymchwil ar draws Wrecsam a Chymru gyfan, a nawr mae cyfle i chi ddewis eich ffefryn.

Nid ie neu na yn unig yr ydym ei eisiau - mae stori ac ystyr unigryw i bob enw. Felly wrth i chi lenwi’r holiadur byr hwn, cymerwch funud i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth ar gyfer pob enw.

Dewis 1: Tŷ Hanes

Mae’r enw “Tŷ Hanes” yn dathlu beth yw amgueddfa. Mae’n fan croesawus er mwyn archwilio hanes pêl droed Cymru a hanes Wrecsam. Mae’r enw’n gysurus, fel cartref yn llawn straeon i’w hadrodd.

Dewis 2: Histordy

Mae’r enw “Histordy” yn cyfuno “histor” o’r gair Saesneg “history” a “stordy” yn y Gymraeg i greu enw newydd. Fel arfer mae geiriau sy’n gorffen gyda “-dy” yn adeiladau, fel archifdy, injandy, ysgoldy neu oleudy. Mae “Histordy” yn hawdd ei ynganu gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Bydd eich dewis yn gymorth i lunio dyfodol yr amgueddfa a’i heffaith ar dreftadaeth Wrecsam a phêl-droed Cymru. Gadewch i ni ddechrau!

Yn seiliedig ar yr uchod, dewiswch eich hoff enw ar gyfer yr amgueddfa newydd. *
Rhannwch eich meddyliau! Pam wnaethoch chi ddewis yr enw a wnaethoch?
Cyflwyno
Clirio ffurflen
Peidiwch byth â chyflwyno cyfrineiriau trwy Ffurflenni Google.
Crëwyd y ffurflen hon y tu mewn i Creo Interactive Ltd.