Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn gofyn i drigolion y dref enwebu unigolion ar gyfer Cynllun Gwobrau Cymunedol yr Wyddgrug 2024. Mae’r cynllun yn rhoi cydnabyddiaeth i gyfraniad ac ymroddiad y grwpiau neu’r unigolion hynny sy’n byw neu sy’n gweithio yn Nhref yr Wyddgrug neu sy’n rhoi cymorth i drigolion y dref.
Rydych chi’n gallu cyflwyno faint fynnwch chi o enwebiadau, a gallwch enwebu rhywun ym mhob un o’r pum categori neu un enwebiad yn unig. Os hoffech enwebu mwy nag un unigolyn/grŵp yn yr un categori, yna bydd angen ichi gyflwyno ffurflen ychwanegol.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 10 Ebrill 2024.
Am ragor o wybodaeth mae croeso ichi ffonio Cyngor Tref yr Wyddgrug ar 01352 758532 neu anfon e-bost at events@moldtowncouncil.org.uk
Byddwch cystal â rhoi’ch enwebiadau isod, gan gynnwys manylion cysylltu’r unigolyn yr ydych yn ei enwebu.
Gwybodaeth GDPR - bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei rhoi ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan Gyngor Tref yr Wyddgrug trwy gydol proses y gwobrau yn unig, ac wedi hynny bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu. Mae Cyngor Tref yr Wyddgrug yn cadarnhau na fydd manylion cysylltu personol yn cael eu rhoi i unrhyw drydydd parti.