Google Forms

Math o gamdrin:

Ein polisi ynghylch noethni

Nid ydym yn caniatáu rhannu na chyhoeddi cynnwys sy'n dangos noethni, gweithredoedd rhyw graffig, neu ddeunydd rhywiol anweddus arall. Dydyn ni ddim yn caniatáu cynnwys sy'n anfon traffig i safleoedd pornograffi masnachol neu sy'n hyrwyddo pedoffilia, llosgach, neu fwystfileiddiwch chwaith.

Mae gennym bolisi llym tuag at gynnwys sy'n manteisio ar blant. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cau cyfrifon unrhyw ddefnyddiwr sy'n rhannu neu'n cyhoeddi delweddaeth cam-drin plant yn rhywiol. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod am y cynnwys a'i berchennog i'r heddlu.

Nid ydym hefyd yn caniatáu rhannu neu gyhoeddi cynnwys sy'n annog neu'n hyrwyddo atyniad rhywiol tuag at blant.