Bydd y broses o baru mentor â mentorai yn cael ei chynnal gan y Pwyllgor
Mentora, a gallai unrhyw aelod o’r Pwyllgor Mentora, ac o bosibl aelodau eraill
o Bwyllgor Cyfraith Gyhoeddus Cymru weld y wybodaeth sydd yma. Bydd enwau'r
mentoriaid a’r mentorai sy’n cael eu paru ar gael i bob un o'r Pwyllgor Mentora
a Phwyllgor Cyfraith Gyhoeddus Cymru.
Oni bai eich bod
yn gofyn yn wahanol, neu fod trefniadau eraill yn cael eu gwneud mewn achosion
penodol megis lle na fu’n bosibl neilltuo mentor i fentorai, bydd Cyfraith
Gyhoeddus Cymru yn cadw ffurflenni wedi’u llenwi am saith mlynedd o’r Tymor
Cychwynnol.[1]
Bydd yr holl wybodaeth ar y ffurflen yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cael
ei defnyddio at ddibenion paru mentoriaid a mentoreion a gweinyddu’r cynllun yn
unig, yn amodol ar rwymedigaethau adrodd proffesiynol aelodau’r Pwyllgor
Mentora.
Gallwch weld ein Datganiad Preifatrwydd ar ein gwefan.
[1] Bydd y Tymor Cychwynnol yn gyfnod o 12 mis o’r dyddiad y caiff y mentor ei
baru â’r mentorai, gan gynrychioli’r cyfnod o amser y mae’r Pwyllgor Mentora yn
tybio y bydd y berthynas fentora yn parhau oni bai bod y mentor neu’r mentorai
yn hysbysu’r Pwyllgor Mentora yn wahanol.