Mae croeso i chi ateb drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, ni fydd eich
dewis iaith yn dylanwadu ar y modd y bydd y cais yn cael ei raddio.
Darllenwch y disgrifiad llawn ar gyfer y rôl, sy'n cynnwys
dyddiadau allweddol y mae angen i chi fod ar gael. Gallwch ddod o hyd i hyn yma
(sgroliwch i lawr y dudalen i 'Artist Brief', y gallwch ei lawrlwytho).
Dalier Sylw : mae 8 lle ar gael.
Rydym yn neulltuo 2 le ar gyfer adroddwyr straeon sy'n dod i'r amlwg a allai
ystyried bod ganddynt lai o brofiad perfformio neu brosiectau, ond sy'n
siaradwyr Cymraeg rhugl ac yn teimlo y gallant ddod â'u sgiliau a'u profiad i'r
prosiect. Os ydych chi'n ystyried eich hun yn adroddwr straeon sy'n dod i'r
amlwg, atebwch bob cwestiwn a thiciwch y blwch, gan roi mwy o wybodaeth i ni
pan ofynnir i chi.
Rydym yn neilltuo lle ar gyfer 2 artist, nad ydynt
efallai yn teimlo bod profiad digonol ganddynt ym myd adrodd straeon, i alw eu
hunain yn Gyfarwydd/ Chwedleuwr/Storïwr
ond eu bod yn rhugl eu Cymraeg ac yn berchen ar sgiliau a phrofiad allai
gyfoethogi'r prosiect. Os ydach yn
teimlo eich bod efallai ar siwrne tuag at fod yn Gyfarwydd / Chwedleuwr /
Storïwr atebwch bob cwestiwn a thiciwch y bocs a rhoi mwy o wybodaeth i ni pan
ofynnir i chi.
Atebwch pob cwestiwn gyda uchafswm o
250 gair. Os ydych chi'n cyflwyno mewn ffeil ar wahân, gwnewch yn siŵr nad yw
cyfanswm y cais yn fwy na 2 ochr o bapur A4. Os ydych chi'n cyflwyno ar ffurf
fideo, uchafswm o 8 munud.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner
nos Iau Awst 28ain