Polisi Preifatrwydd

Ebrill 2021

Diben Ysgol Cymru yw creu cymuned dysgu ddiogel ar gyfer plant a phobl ifanc. Felly, rydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd.

Mae 4 adran i’r ddogfen hon:

============

Ein Polisi

Mae Ysgol Cymru yn Wasanaeth sy'n caniatáu i rieni neu warcheidwaid (Y mae cyfeiriad at “Rhiant” neu “Rieni” yn y ddogfen hon yn cyfeirio at unrhyw Oedolyn gyda chyfrifoldeb Rhianta am y Plentyn dan sylw) gofrestru myfyrwyr mewn Sesiynau grŵp ar-lein (y “Sesiynau”), ac i diwtoriaid greu, rhoi cyhoeddusrwydd a darparu'r Sesiynau hynny (ein ‘Gwasanaeth’). Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi polisi Ysgol Cymru mewn perthynas â'r wybodaeth a gesglir gan ymwelwyr a defnyddwyr y Gwasanaethau Allanol. Mae i dermau gyda llythyren fras nad ydynt wedi'u diffinio yn y Polisi Preifatrwydd hwn yr ystyr a nodir yn y Telerau Defnydd ar gyfer y Wasanaeth.

Gwybodaeth a Gasglwn

Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni trwy'r Wefan, gallwn gasglu data y gellid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad i'ch adnabod chi (“Data Personol”), a gwybodaeth arall fel y disgrifir ymhellach isod:

Data Personol trwy'r Wefan

Rydym yn casglu Data Personol pan fyddwch yn ei ddarparu’n wirfoddol, er enghraifft wrth gysylltu â ni gydag ymholiadau neu'n cofrestru ar gyfer cyfrif Ysgol Cymru er mwyn cael mynediad i‘r Wasanaeth. Gallwn gasglu'r wybodaeth ganlynol gennych chi er mwyn darparu’r Wasanaeth:

Trwy ddarparu Data Personol i ni yn wirfoddol, rydych yn cydsynio i'n defnydd ohono yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn. Os ydych chi'n darparu Data Personol i'n Gwasanaethau, rydych chi'n cydnabod ac yn cytuno y gellir trosglwyddo Data Personol o'r fath o'ch lleoliad presennol i swyddfeydd a gweinyddwyr Ysgol Cymr a'r trydydd partïon awdurdodedig y cyfeirir atynt yma.

Gwybodaeth arall

Data a Gasglwyd yn ddiofyn (‘Data Diofyn’): Pan fyddwch yn rhyngweithio â ni trwy'r Wefan, rydym yn derbyn ac yn storio data penodol yn awtomatig. Gall Ysgol Cymru storio Data Diofyn ein hunain neu gellir cynnwys gwybodaeth o'r fath mewn cronfeydd data sy’n perthyn i, neu’n cael eiu cynnal gan ddarparwyr trydydd parti neu asiantau eraill. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth o'r fath a'i chyfuno â gwybodaeth arall i olrhain, er enghraifft, cyfanswm yr ymwelwyr â'n Gwefan, nifer yr ymwelwyr â phob tudalen o'n Gwefan, ac enwau parth Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) ein hymwelwyr.

Wrth weithredu ein Gwefan, gallwn ni a thrydydd partïon sy'n darparu swyddogaeth benodol i Ysgol Cymru ddefnyddio technoleg o'r enw "briwsion” (cookies).  Mae briwsionyn yn ddarn o wybodaeth y mae'r cyfrifiadur sy'n cynnal ein Gwasanaeth yn ei roi i'ch porwr pan fyddwch chi'n cyrchu'r Wefan. Mae ein briwsion yn helpu i ddarparu swyddogaeth ychwanegol i'n Gwasanaeth ac yn ein helpu i ddadansoddi'r defnydd o'r Wefan yn fwy cywir. Ar y mwyafrif o borwyr gwe, fe welwch adran “help” ar y bar offer. Cyfeiriwch at yr adran hon i gael gwybodaeth ar sut i dderbyn hysbysiad pan fyddwch chi'n derbyn briwsionyn newydd a sut i ddiffodd briwsion. Rydym yn argymell eich bod yn galluogi briwsion oherwydd eu bod yn caniatáu ichi fanteisio ar rai o nodweddion ein Gwasanaeth. I gael mwy o wybodaeth am ein defnydd o friwsion, gweler yr adran “Polisi Briwsion” isod.

Cyfuno Data Personol

Gallwn gyfuno data, gan gynnwys Data Personol, a defnyddio data cyfunol o'r fath at unrhyw bwrpas. Ni fydd modd eich hadnabod chi’n bersonol o’r wybodaeth gyfunol hon.

Ein Defnydd o'ch Data Personol a Gwybodaeth Arall

Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth i:

Recordio fideo (Recordiadau Dosbarth)

Bydd Ysgol Cymru yn recordio pob un wers ar ein platgfform, ac yn defnyddio Recordiadau Dosbarth i roi adborth i diwtoriaid, at gymorth i gwsmeriaid, ac at ddibenion cydymffurfio.

Bydd Ysgol Cymru yn gofyn am ganiatâd ychwanegol gan rieni a myfyrwyr cyn i ni ddefnyddio unrhyw Recordiadau Dosbarth at ddibenion hyrwyddo neu ddibenion eraill.

Gwybodaeth am wasanaethau eraill

Os ydych wedi rhoi caniatad i ni, gall Ysgol Cymru a gwasanaethau cysylltiedig ddefnyddio'ch Data Personol i gysylltu â chi yn y dyfodol i ddweud wrthych am wasanaethau y credwn fydd o ddiddordeb i chi. Os gwnawn hynny, bydd pob cyfathrebiad hyrwyddo a anfonwn atoch yn cynnwys cyfarwyddiadau sy'n caniatáu ichi "ddad-danysgrifio" o dderbyn gwybodaeth hyrwyddo yn y dyfodol. Yn ogystal, os ydych chi am beidio â derbyn unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ar unrhyw adeg neu os ydych chi am i'ch enw gael ei ddileu o'n rhestri postio, cysylltwch â ni ar post@YsgolCymru.cymru. Sylwch y byddwn yn parhau i gysylltu â chi trwy e-bost i ymateb i geisiadau a darparu ein Gwasanaethau.

Cadw data

Efallai y bydd eich gwybodaeth, gan gynnwys Data Personol, yn cael ei throsglwyddo i gyfrifiaduron sydd wedi'u lleoli y tu allan i'ch gwlad, gwladwriaeth neu awdurdodaeth lywodraethol arall lle y gall y deddfau diogelu data fod yn wahanol i'r rhai o'ch awdurdodaeth. Os ydych chi wedi'ch lleoli y tu allan i'r Deyrnas Gyfunol ac yn dewis darparu gwybodaeth i ni, nodwch ein bod ni'n trosglwyddo'r data, gan gynnwys Data Personol, i'r Deyrnas Gyfunol a'i brosesu yno.

Datgelu eich Data Personol a Gwybodaeth Arall

Efallai y byddwn yn rhannu eich Data Personol â thrydydd partïon penodol heb rybudd pellach i chi, fel y nodir isod:

Trosglwyddiadau Busnes: Os ydym yn cyfuno gydag neu yn prynnu endid arall, ad-drefnu, methdaliad, derbynyddiaeth, gwerthu asedau cwmni, neu drosglwyddo gwasanaeth i ddarparwr arall, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth i olynydd neu gwmni cysylltiedig, ar ei ben ei hun neu fel rhan. o'r trafodiad hwnnw ynghyd ag asedau eraill.

Gwerthwyr a Darparwyr Gwasanaeth: Rydym yn cyflogi darparwyr gwasanaeth trydydd parti i gyflawni rhai swyddogaethau ar ein rhan (megis prosesu taliadau). Gallwn roi mynediad i’r trydydd partïon hyn i'ch Data Personol at y diben o'n helpu i farchnata, darparu a / neu wella'r Wasanaeth.

Gofynion Cyfreithiol: Gall Ysgol Cymru ddatgelu eich Data Personol os yw'n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith neu yn y gred ddidwyll bod angen cymryd camau o'r fath i (i) gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, (ii) amddiffyn hawliau neu eiddo Ysgol Cymru (iii) gweithredu mewn amgylchiadau brys i amddiffyn diogelwch personol defnyddwyr y Wefan neu'r cyhoedd, neu (iv) amddiffyn rhag atebolrwydd cyfreithiol.

============

Diogelu Data Plant (o dan 13 oed) - gwybodaeth i Rieni

Mae'r adran hon yn egluro polisiau casglu a datgelu gwybodaeth, a sicrhau dewis a chaniatâd rhieni mewn perthynas â gwybodaeth a roddir gan blant. Polisi Ysgol Cymru yw ein bod yn derbyn caniatad Rhiant yn unig fel caniatâd digonol ar gyfer unrhyw blentyn o dan 13 oed. Rydym yn gofyn i Rieni i sicrhau bod unrhyw blentyn sydd yn ddigon aeddfed i ddeall ei hawlaiu data bersonol hefyd yn cytuno i’r Polisi Preifatrwydd yma.

Casglu data

Mae Ysgol Cymru yn casglu gwybodaeth am fyfyrwyr yn uniongyrchol gan Rieni, sy'n rhoi enw cyntaf, oedran, ac o bosib nodiadau ychwanegol ynglŷn â’r plant ar gyfer y tiwtor. Yn ogystal, gall plant rannu gwybodaeth amdanynt eu hunain yn ystod Sesiynau. Gellir cynnal Sesiynau Ysgol Cymru dros fideo ar-lein lle mae delweddau fideo a sain o'r Plant yn cael eu recordio. Ni chesglir unrhyw wybodaeth yn uniongyrchol gan Blant heblaw yr hyn mae nhw’n ei rhoi yn ystod Sesiynau. Ni all plant bostio data personol yn gyhoeddus ar Wasanaeth Ysgol Cymru.

Defnyddio a Datgelu Data Plant

Mae Ysgol Cymru yn rhannu'r enw, oedran ac unrhyw nodiadau y mae rhieni wedi'u darparu am eu Plentyn gyda'r Tiwtor Sesiwn, er mwyn caniatáu i'r Tiwtor ddarparu Sesiwn. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei thrin fel rhan o “Ddata Personol” y Rhiant a gellir ei rhannu fel y disgrifir yn yr adran Datgelu uchod ar gyfer trosglwyddiadau busnes; i werthwyr a darparwyr gwasanaeth; ac er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol. Gall plant hefyd rannu gwybodaeth amdanynt eu hunain yn wirfoddol gyda'r Tiwtor a gweddill eu dosbarth yn ystod y Sesiwn. Er bod Ysgol Cymru yn disgwyl i Diwtoriaid a phob Defnyddiwr arall gadw at ein safonau ymddygiad, nodwch na allwn reoli na monitro pa wybodaeth bersonol y mae eich Plentyn yn ei rhannu â Thiwtoriaid neu gyd-ddisgyblion, na'r hyn y mae'r trydydd partïon hynny yn ei wneud gyda'r wybodaeth honno yn y pen draw, ac rydym yn ymwadu pob cyfrifoldeb yn hynny o beth.

Recordiadau Fideo Dosbarth

Fel y disgrifiwyd uchod, mae Ysgol Cymru yn recordio fideo o fyfyrwyr a Thiwtoriaid yn ystod dosbarthiadau Ysgol Cymru (“Recordiadau Sesiwn”). Gall Ysgol Cymru ddefnyddio Recordiadau Sesiwn i roi adborth i Diwtoriaid, at gymorth i gwsmeriaid, ac at ddibenion cydymffurfio. Bydd Ysgol Cymru yn sicrhau caniatâd ychwanegol Tiwtoriaid, rhieni a phlant cyn cael defnyddio unrhyw Recordiadau Sesiwn at ddibenion hyrwyddo neu ddibenion eraill. Ni fydd caniatad i unrhyw diwtor, plentyn na rhiant recordio Sesiynau at eu dibenion eu hunain.

Cydsyniad Rhiant

Trwy gofrestru plentyn gydag Ysgol Cymru, mae rhiant yn rhoi caniatad i ni gadw, trosglwyddo a defnyddio unrhyw Ddata Personol y mae’r rhiant yn ei ddarparu, yn nôl y Polisi Preifatrwydd. Os ydych yn archebu lle yn un o’r Sesiynnau, rydych chi yn rhoi caniatâd i Ysgol Cymru drosglwyddo dy wybodaeth i’r Tiwtor ac unrhyw drydydd parti arall sydd yn rhan o ddarparu’r Wasanaeth. Os nad ydych yn cydsynio i driniaeth data Personol eich plant yn y fodd yma, yna ni fydd modd i ni ddarparu’r Wasanaeth.

Noder: Y mae hawl gan unrhyw blentyn sydd yn ddigon aeddfed i ddeall ei hawliau roi neu wrthod caniatâd i gasglu neu ymdrin a’i ddata personol. Os ydym yn derbyn cais gan blentyn i ddiddymu neu newid ei ddata personol, mae’n ofynnol i ni yn gyfreithiol i wneud. Os digwydd hynny, byddwn yn rhoi rhybudd i chi fel rhiant, ac yn annog y plentyn i drafod gyda chi cyn gweithredu.

Dewisiadau a Rheolaethau Rhieni

Ar unrhyw adeg, gallwch wrthod caniatáu inni gasglu Data Personol pellach gan eich Plant mewn cysylltiad â'ch cyfrif, a gallwch ofyn i ni ddileu'r Data Personol yr ydym wedi'i gasglu mewn cysylltiad â'r cyfrif hwnnw o'n cofnodion. Cadwch mewn cof y gallai cais i ddileu cofnodion arwain at derfynu cyfrif, aelodaeth neu wasanaeth arall. Gallwch ddiweddaru gwybodaeth eich Plentyn trwy fewngofnodi i'ch cyfrif. Gallwch gysylltu ag Ysgol Cymru i ofyn am fynediad i, newid, neu ddileu gwybodaeth bersonol eich Plentyn trwy anfon e-bost atom yn post@YsgolCymru.cymru. Bydd cais dilys i ddileu gwybodaeth bersonol yn cael ei weithredu o fewn amser rhesymol. Yn ogystal â'r uchod, byddwn yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddileu gwybodaeth bersonol sy'n eiddo i Blant pan nad oes ei hangen mwyach at y diben y cafodd ei chasglu ar ei chyfer.

Dolenni i Wefannau Eraill

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i Wasanaethau Ysgol Cymru yn unig. Gall y Wasanaeth gynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydyn nhw'n cael eu gweithredu na'u rheoli gennym ni (y “Gwefannau Trydydd Parti”). Nid yw'r polisïau a'r gweithdrefnau rydyn ni'n eu disgrifio yma yn berthnasol i'r Gwefannau Trydydd Parti. Ni fydd cynnwys dolen at Wefannau Trydydd Parti yn awgrymu ein bod yn cymeradwyo neu wedi adolygu'r Gwefannau hyn. Byddwn yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'r Gwefannau Trydydd Parti yn uniongyrchol i gael gwybodaeth am eu polisïau preifatrwydd nhw.

Diogelwch

Rydym yn cymryd camau rhesymol i gadw Data Personol a ddarperir trwy'r Wasanaeth rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio neu ei gyrchu heb awdurdod, ei newid neu ei ddinistrio. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu bod y Rhyngrwyd yn gwbl ddiogel ac ni allwn sicrhau na gwarantu diogelwch unrhyw wybodaeth a roddwch i ni. Ni fyddwn yn atebol am ddatgeliadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol. Rydych chi yn rhannu’r cyfrifoldeb am amddiffyn diogelwch eich cyfrif. Er enghraifft, peidiwch byth â rhannu’ch cyfrinair, a gwnewch bob ymdrech i ddiogelu'ch enw defnyddiwr, eich cyfrinair ac unrhyw wybodaeth bersonol arall pan fyddwch chi'n defnyddio'r Wasanaeth, fel na fydd gan bobl eraill fynediad i'ch Data Personol. Ar ben hynny, rydych chi'n gyfrifol am gynnal diogelwch unrhyw ddyfais gyfrifiadurol bersonol rydych chi'n defnyddio'r Wasanaeth arni.

Peidiwch â Thracio

Mae Peidiwch â Thracio (Do Not Track) yn ddewis y gallwch ei osod yn eich porwr gwe i hysbysu gwefannau nad ydych chi am gael eich olrhain. Gallwch chi alluogi neu analluogi Peidiwch â Thracio trwy ymweld â thudalen Dewisiadau neu Gosodiadau eich porwr gwe. Nid ydym yn cefnogi cyfarwyddyd Peidiwch â Thracio ar hyn o bryd, ond rydym yn trin data pawb sy'n dod i'n gwefan yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn, beth bynnag fo'u gosodiad Peidiwch â Thracio.

Mynediad a Chywirdeb; Cywiro Data Personol

Mae gennych hawl i gael mynediad at y Data Personol sydd gennym amdanoch chi er mwyn gwirio'r Data Personol yr ydym wedi'i gasglu mewn perthynas â chi ac i gael cyfrif cyffredinol o'n defnydd o'r wybodaeth honno. Ar ôl derbyn eich cais ysgrifenedig, byddwn yn darparu copi o'ch Data Personol i chi, er efallai na fyddwn yn gallu sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i chi mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, er enghraifft lle mae'r wybodaeth honno hefyd yn berthnasol i ddefnyddiwr arall. Mewn amgylchiadau o'r fath byddwn yn darparu rhesymau dros wadu mynediad i chi ar gais. Byddwn yn ymdrechu i ddelio â phob cais am fynediad ac addasiadau mewn modd amserol.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i gadw'ch Data Personol yn gywir ac yn gyfoes, a byddwn yn darparu mecanweithiau i chi gywiro, diwygio, dileu neu gyfyngu ar y defnydd o'ch Data Personol. Fel y bo'n briodol, trosglwyddir y Data Personol diwygiedig hwn i'r partïon hynny y caniateir inni ddatgelu eich gwybodaeth iddynt. Mae cael Data Personol cywir amdanoch yn ein galluogi i roi'r wasanaeth orau posibl i chi.

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl:

Sylwer y gallwn ofyn i chi wirio pwy ydych chi cyn ymateb i geisiadau o'r fath.

============

Polisi Briwsion

Beth yw briwsion (cookies)?

Ffeiliau testun bach yw Briwsion sydd n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan wefannau y byddwch yn ymweld â nhw. Mae  Briwsion yn cael eu defnyddio’n eang er mwyn sicrhau bod gwefannau yn gweithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle

Beth yw pwrpas brwsion?

Mae Briwsion yn caniatáu i safle neu wasanaethau wybod a yw'ch cyfrifiadur neu ddyfais wedi ymweld â'r safle neu'r gwasanaeth hwnnw o'r blaen. Yna gellir defnyddio Briwsion i helpu i ddeall sut mae'r wefan neu'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio, eich helpu i lywio rhwng tudalennau'n effeithlon, helpu i gofio'ch dewisiadau, a gwella'ch profiad pori yn gyffredinol. Gall Briwsion hefyd helpu i sicrhau bod marchnata a welwch ar-lein yn fwy perthnasol i chi a'ch diddordebau.

Pa fathau o brwsion ydyn ni'n eu defnyddio?

Yn gyffredinol mae pedwar categori o Friwsion : “Angenrheidiol”, “Perfformiad”, “Gweithredol”, a “Targedu”.  Byddwn yn defnyddio pob un o'r pedwar categori o Friwsion ar y Wasanaeth. Gallwch ddarganfod mwy am bob categori Briwsion isod.

Briwsion sy'n hollol angenrheidiol. Mae'r Briwsion hyn yn hanfodol, gan eu bod yn eich galluogi i symud o amgylch y Wefan a defnyddio ei nodweddion, er enghraifft cael mynediad i ardaloedd ‘mewngofnodi yn unig’ neu ardaloedd personol diogel. Oherwydd bod y Briwsion hyn yn hanfodol, ni allant gael eu diffodd.

Briwsion Perfformiad. Mae'r Briwsion hyn yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi wedi defnyddio'r Wasanaeth, er enghraifft, gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch enw defnyddiwr unigryw, fel bod y Wefan yn gweithio’n well i chi. Gallwn ddefnyddio'r Briwsion hyn hefyd i wybod eich bod wedi mewngofnodi fel y gallwn ddarparu cynnwys mwy ffres i chi o gymharu gyda defnyddiwr sydd ddim wedi mewngofnodi’n ddiweddar. Byddwn yn defnyddio Briwsion i olrhain defnydd y Wasanaeth mewn modd anhysbys wrth arbrofi gyda nodweddion newydda  newidiadau eraill i’r Wasanaeth. Defnyddir y wybodaeth a gesglir i wella sut mae'r Wasanaeth yn gweithio.

Briwsion Gweithredol. Mae'r Briwsion hyn yn caniatáu inni gofio sut rydych chi wedi mewngofnodi, eich dewisiadau gweld hysbysebion, pryd wnaethoch chi fewn- neu all-gofnodi, a chyflwr neu hanes unrhyw offer rydych chi wedi'u defnyddio trwy’r Wasanaeth. Mae'r Briwsion hyn hefyd yn caniatáu inni deilwra'r Wasanaeth i ddarparu nodweddion a chynnwys gwell i chi ac i gofio sut rydych chi wedi addasu'r Gwasanaeth mewn ffyrdd eraill. Mae'r wybodaeth y mae'r Briwsion hyn yn ei chasglu yn anhysbys, ac ni chânt eu defnyddio i olrhain eich gweithgaredd pori ar wefannau neu wasanaethau eraill.

Briwsion Targedu. Gallwn ni, ein partneriaid hysbysebu neu bartneriaid trydydd parti eraill ddefnyddio’r mathau hyn o Friwsion i gyflwyno hysbysebion sy'n berthnasol i'ch diddordebau. Gall y cwcis hyn gofio bod eich dyfais wedi ymweld â safle neu wasanaeth, ac efallai y gallant olrhain gweithgaredd pori eich dyfais ar wefannau neu wasanaethau eraill heblaw ein un ni. Gellir rhannu'r wybodaeth hon â sefydliadau y tu allan i'n un ni, fel hysbysebwyr a / neu rwydweithiau hysbysebu i ddarparu'r hysbysebu, ac i helpu i fesur effeithiolrwydd ymgyrch hysbysebu, neu bartneriaid busnes eraill at ddiben darparu ystadegau swmp ynglŷn â defnydd y Wasanaeth a phrofion yn ymwneud â’r Wasanaeth.

Pa mor hir fydd Briwsion yn aros ar fy nyfais?

Mae faint o amser y bydd Briwsion yn aros ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol yn dibynnu a yw'n Briwsionyn “parhaus” neu “sesiwn”. Dim ond nes i chi stopio pori y bydd Briwsion sesiwn yn aros ar eich dyfais. Mae Briwsion parhaus yn aros ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol nes iddynt ddod i ben neu gael eu dileu.

Gallwch chi gyfarwyddo'ch porwr i wrthod pob Briwsionyn neu nodi pryd mae Briwsionyn yn cael ei anfon. Fodd bynnag, os na dderbyniwch Briwsion, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai elfennau o'n Gwasanaethau.

============

Polisi Preifatrwydd* i’r Ifanc

*Noder: Gorolwg yw hwn o’r Polisi Preifatrwydd Llawn wedi ei ysgrifennu i esbonio hawliau pobl ifanc mewn iaith haws ei ddeall. Rydyn ni wedi ceisio cadw at ysbryd y polisi llawn, ond os oes gwrthdaro, yna’r Polisi Preifatrwydd Llawn a ystyrir yn gywir.

Mae Ysgol Cymru yn rhedeg gwersi arlein i helpu ti i fwynhau dysgu pethau newydd. Rydyn ni’n casglu gwybodaeth amdanat ti er mwyn gwneud hynny. ‘Data Personol’ yw’r enw ar y wybodaeth hynny.

Pan mae unrhyw un yn casglu dy ddata personol, dy hawl di yw i benderfynu os, a sut, mae nhw’n cael defnyddio’r data. Oherwydd dy fod ti dan 18, byddwn ni’n gofyn i’r oedolyn sy’n prynnu lle ar wersi i ti (byddwn ni’n ei alw’n ‘dy Oedolyn’ o hyn ymlaen) am ganiatad. Wrth i ti dyfu lan, mae’n bwysig dy fod ti’n cael gwybod, a deall, pa ganiatad mae nhw’n rhoi.

Mae’r polisi hwn yn esbonio:

Y data byddwn ni’n ei gasglu

Mae dy Oedolyn wedi rhoi caniatad i ni ddefnyddio’r data yma:

Mae’n bwysig dy fod ti’n hapus gyda’r data mae dy Oedolyn yn rhannu gyda ni.

Fel bron pob gwefan arall, byddwn ni hefyd yn casglu data trwy friwsion (cookies) wedi eu gosod ar dy gyfrifiadur wrth i ti ddefnyddio’n Gwefan. Bydd y data hwn wedi ei gysylltu i gyfrif dy Oedolyn, ac nid i ti.

I beth mae dy ddata yn cael ei ddefnyddio

Dyma sut byddwn ni’n defnyddio dy ddata personol di:

Dy hawliau i reoli data personol

Ti sydd yn rheoli dy ddata personol, ta beth yw dy oedran. Fel arfer, dy Oedolyn sydd yn delio gyda dy ddata ar dy ran di.

Siarad gyda dy Oedolyn

Dy Oedolyn sydd wedi rhoi data a chaniatad i ni ar dy ran di. Mae’n syniad da i ti siarad gyda dy Oedolyn ynglŷn â dy ddata. Gwna’n siwr eu bod nhw’n deall sut wyt ti am iddyn nhw reoli dy ddata, yn enwedig os wyt ti eisiau newid rhywbeth.

Os wyt ti yn gofyn i ni newid rhywbeth, byddwn ni yn rhoi rhybudd i dy Oedolyn, felly mae’n bwysig bod dy Oedolyn yn gywbod am unrhyw newidiadau.

Cofia, gall newid dy ganiatad i ddefnyddio neu storio data olygu na fyddi di yn gallu defnyddio ein Sesiynau rhagor.

Diogelu data personol arlein

Rhannu data

Pob tro rwyt ti’n siarad gyda rhywun arlein - mewn sesiwn fideo, ar fforwm neu system ‘sgwrs’, neu hyd yn oed wrth lenwi ffurflen - rwyt ti yn rhannu data personol.

Cofia bod unrhywbeth sydd ar y we, hyd yn oed sgwrs breifat, yn gallu cael ei gyhoeddi yn hawdd iawn. Bydd yn ofalus iawn am y wybodaeth rwyt ti’n rhannu - ar Ysgol Cymru, neu ar y We ehangach.

Manylion cyswllt

Rydyn ni’n gobeithio y byddi di yn cwrdd â ffrindiau newydd trwy Ysgol Cymru. Yn anffodus, er mwyn sicrhau diogelwch dy ddata di, data dy ffrindiau, a defnyddwyr ifanc yn gyffredinol, ni fyddi di’n cael rhannu manylion cyswllt.  

Os oes unrhyw un - yn ddysgwr, neu yn Diwtor neu oedolyn arall - yn ceisio rhannu manylion cyswllt gyda ti, gad i dy Oedolyn wybod, a gad i ni wybod yn Ysgol Cymru. Mae’n debyg iawn bod y digwyddiad yn un gwbl ddiniwed, a gallwn sicrhau bod pawb yn ddiogel trwy ymchwilio.

Rydyn ni yn gobeithio gallu trefnu ffordd ddiogel o rannu manylion cyswllt yn y dyfodol.

Dolenni allanol

Gall fod dolenni allanol fel rhan o Sesiwn ar Ysgol Cymru. Cofia nad ydyn ni yn rheoli gwefannau allanol, felly ta pa mor ddiogel wyt ti ar Ysgol Cymru, pan rwyt ti yn ymweld â gwefan arall, bydd yn ofalus. Bydd eu polisi data a diogelwch yn wahanol.

============

Telerau ac Amodau Eraill

Rheolir eich mynediad i'n Gwasanaeth a'ch defnydd ohoni gan Telerau Defnydd y Wasanaeth.

Newidiadau i'n Polisi Preifatrwydd

Rydym yn cadw'r hawl i newid y Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Os penderfynwn newid y Polisi Preifatrwydd hwn yn y dyfodol, byddwn yn postio neu'n darparu rhybudd priodol. Bydd unrhyw newid ansylweddol (fel eglurhad) i'r Polisi Preifatrwydd hwn yn dod i rym ar y dyddiad y caiff y newid ei bostio, a bydd unrhyw newidiadau sylweddol yn dod i rym 30 diwrnod o'u postio ar y dudalen hon neu drwy e-bost i'ch cyfeiriad e-bost rhestredig. Oni nodir yn wahanol, mae ein Polisi Preifatrwydd cyfredol yn berthnasol i'r holl Ddata Personol sydd gennym amdanoch chi a'ch cyfrif. Nodir y dyddiad y gwnaed y diweddariad diweddaraf ar frig y ddogfen hon. Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o'r Polisi Preifatrwydd hwn er mwyn cyfeirio ato ac yn ailedrych ar y polisi hwn o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r Wasanaeth yn arwydd eich bod yn derbyn unrhyw newidiadau.

Cysylltwch â Ni

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am Bolisi Preifatrwydd Ysgol Cymru neu arferion gwybodaeth ein Gwasanaeth.

Gallwch gysylltu â ni fel a ganlyn: Gallwch anfon e-bost at post@YsgolCymru.cymru neu anfon post at:

Ysgol Cymru

d/o Ysgol y Byd

94 Y Ffawydd

Llandysul

SA44 4JQ