Holiadur y Cynllun Pontio
Hoffwn ddiolch i chi am gytuno i gymryd rhan yng Nghynllun Pontio Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae cynnal sgwrs â Chymry Cymraeg yn beth fuddiol iawn i ddysgwyr ac felly rydym yn ddiolchgar iawn i chi am gytuno i roi eich amser i’w helpu nhw.
Caiff cyrsiau Cymraeg eu dysgu mewn nifer fawr o leoliadau dros Gaerdydd a Bro Morgannwg ar lefelau gwahanol. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn cwblhau’r holiadur isod fel ein bod ni’n gallu gwneud yr ymweliadau mor gyfleus i chi ag sy’n bosib.
Bydden i’n ddiolchgar iawn pe baech yn gallu arwyddo’r holiadur hwn a’i anfon yn ôl ato i: Gwenllian Willis, Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Adran y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, Colum Road, Caerdydd, CF10 3EU.
Enw:
E-bost:
Rhif ffôn:
Cyfeiriad:
1. Pa amser o’r dydd fydd modd i chi wneud sesiynau pontio? (Mae croeso i chi lenwi mwy nag un blwch).
8yb – 12yp 12yp – 5yp 5yp – 9yh
2. Faint o sesiynau ydych chi’n fodlon gwneud mewn blwyddyn?
1 yn unig 1 – 3 4+
3. A ydych eisiau ymweld â dosbarthiadau lleol i’ch ardal neu ydych yn fodlon teithio unrhywle dros Gaerdydd a’r Fro?
Ardal leol Pob man
4. Â oes unrhyw gyflwr meddygol arnoch er mwyn i ni hwyluso ein trefniadau. e.e. problemau symudedd neu anawsterau clywed:
Oes Nac oes
Os oes, rhowch y manylion fan hyn:
5. Mae rhwng 8 ac 15 o bobl mewn rhan fwyaf o’r dosbarthiadau. Ydych chi’n fodlon dod i siarad â’r dosbarth i gyd neu fyddai well gyda chi ddod ar yr un pryd â phobl eraill fel eich bod yn gallu siarad â grŵp bach yn unig?
Dosbarth i gyd
6. Mae’r sesiynau pontio ar gyfer 3 lefel gwahanol o ddysgwyr. Ticiwch y blychau ar gyfer y dosbarthiadau dych chi’n cytuno i ymweld â nhw.
Dechreuwyr
Uwch (Lefel A)
Siawns am Sgwrs – profiadau a digwyddiadau yn y newyddion
7. Mae croeso i chi hawlio tâl o £20 neu roi’r arian yma i gronfa’r dysgwyr.
Hoffwn gael tâl o £20 ar gyfer pob sesiwn
Hoffwn roi’r arian i gronfa’r dysgwyr
Diolch yn fawr i chi am eich amser.
Mae’r holiadur hwn yn hollol gyfrinachol.
Enw:
Llofnod:
Dyddiad: